Prif Weithredwr GIG Cymru yn ymweld â Chanolfan Porth y Dwyrain a Canolfan Pentre Awel

8 awr yn ôl

Croesawodd Canolfan Pentre Awel a Chanolfan Porth y Dwyrain Jacquline Totterdell, Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp Iechyd, Gofal ac Atal/Prif Weithredwr GIG Cymru, i'r safle ddydd Gwener 9 Hydref. Roedd yr ymweliad yn gyfle i dynnu sylw at y cydweithio a'r gwaith partneriaeth sydd wrth wraidd y datblygiad yn Llanelli.

Rhoddodd yr ymweliad gyfle i arddangos sut mae Canolfan Pentre Awel a Chanolfan Porth y Dwyrain yn dod â phartneriaid o feysydd iechyd, hamdden, addysg ac ymchwil ynghyd, ochr yn ochr â'r gymuned ehangach, i helpu i wella a chefnogi gwell canlyniadau iechyd a hyrwyddo bywydau iachach ledled Sir Gaerfyrddin.

Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu Prif Weithredwr GIG Cymru â staff yng Nghanolfan Porth y Dwyrain sy'n darparu ystod o wasanaethau, gan gynnwys cymorth rhyddhau o'r ysbyty, gofal a thrwsio, Delta Connect, gwasanaethau gwybodaeth a chyngor, gofal canolraddol, a'r Hwb Ffrydio Clinigol/gwasanaeth Ysbyty yn y Cartref. Yn dilyn hyn, cafodd Prif Weithredwr GIG Cymru daith o amgylch Canolfan Pentre Awel, gan ymweld â chyfleusterau allweddol a dysgu mwy am y gwasanaethau a'r prosiectau arloesol sy'n cael eu darparu drwy waith partneriaeth allweddol. Roedd y daith yn cynnwys cipolwg ar adain iechyd cymunedol ac ymchwil yr adeilad, sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd. O ddechrau'r flwyddyn nesaf, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu o'r cyfleuster hwn.

Dywedodd Dr Neil Wooding, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

Ers agor ei drysau, mae Pentre Awel wedi dangos gwerth dod â gwasanaethau iechyd, llesiant, addysg, ymchwil, chwaraeon a hamdden ynghyd mewn un lle, gan ei gwneud yn haws i bobl fyw bywydau iachach a llawn.
Wrth i ni barhau i wireddu ein huchelgais o ddod â gofal yn nes at ble mae pobl yn byw, mae Canolfan Pentre Awel yn ein helpu i ddarparu mwy o wasanaethau yng nghanol ein cymunedau. O adsefydlu arbenigol yn y pwll hydrotherapi i wasanaethau profion gwaed lleol, mae pobl yn cael gofal o ansawdd uchel yn nes at adref.
Mae'r llwyddiant hwn yn adlewyrchu cryfder gweithio mewn partneriaeth. Edrychwn ymlaen at weld rhagor o wasanaethau iechyd yn symud i'r adain iechyd cymunedol ac ymchwil, gan ein helpu ni i ehangu'r ystod o wasanaethau gofal sydd ar gael yn lleol a chreu mwy o gyfleoedd i'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu.

Cafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle i weld y gwaith sy'n cael ei wneud yn Canolfan Pentre Awel er budd y gymuned leol, gan gynnwys yn y clinig Fflebotomi[RG1.1][FW2.1]. Ers mis Mehefin 2026, mae'r gwasanaeth Fflebotomi wedi gweld dros 20,000 o gleifion, gan ddangos sut mae Canolfan Pentre Awel eisoes yn darparu cyfleusterau gofal iechyd hygyrch i drigolion lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

Roeddem yn falch o groesawu Prif Weithredwr GIG Cymru i Canolfan Pentre Awel. Mae'r ymweliad yn dangos pwysigrwydd cydweithio er mwyn sicrhau gwell canlyniadau iechyd a llesiant i'n cymunedau. Drwy ddod â gwasanaethau iechyd, llesiant, hamdden, ymchwil a chymunedol ynghyd mewn un lle, mae Canolfan Pentre Awel yn rhoi cyfle i bartneriaid weithio gyda'i gilydd a datblygu ffyrdd newydd o helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy egnïol.
Edrychwn ymlaen at barhau i ddatblygu'r partneriaethau hyn a sicrhau bod y buddsoddiad ym Mhentre Awel yn darparu manteision parhaol i bobl Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.

Cafodd y rhai a oedd yn bresennol hefyd gyfle i ymweld â'r ystafell Hydrotherapi yn Canolfan Pentre Awel, sy'n darparu triniaeth therapiwtig yn y dŵr sy'n hanfodol i gefnogi adsefydlu, rheoli poen, gwella symudedd a chyflyrau iechyd hirdymor. Mae'r pwll wedi'i adeiladu'n bwrpasol i fodloni safonau clinigol uchel, gan gynnwys amgylcheddau therapi dŵr cynnes, ardaloedd newid hygyrch ac offer arbenigol. Cafodd Prif Weithredwr GIG Cymru gyfle i glywed am waith caled Pwyllgor Pwll Hydrotherapi Llanelli, elusen leol a fu'n ymgyrchu i sicrhau bod cyfleuster o'r fath yn cael ei adeiladu yn Llanelli, yn ogystal ag am gyfraniad Cronfa Waddol Elizabeth Williams. Darparwyd cyllid hefyd ar gyfer y pwll Hydrotherapi gan Treat Trust Wales a Llywodraeth Cymru.

Tynnodd yr ymweliad sylw at ddatblygiad parhaus Canolfan Pentre Awel a phwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod y cyfleuster yn darparu'r manteision mwyaf posibl i bobl leol. 

Dywedodd Jacqueline Totterdell, Prif Weithredwr GIG Cymru:

Pleser oedd ymweld â Chanolfan Porth y Dwyrain a Chanolfan Pentre Awel a gweld sut mae partneriaid ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, llywodraeth leol ac addysg yn gweithio gyda'i gilydd ar gyfer pobl Sir Gaerfyrddin. 
O gymorth rhyddhau o'r ysbyty a gofal canolradd ym Mhorth y Dwyrain i'r pwll hydrotherapi a'r adran iechyd ac ymchwil gymunedol newydd ym Mhentre Awel - roedd yn galonogol gweld yn uniongyrchol yr ystod o wasanaethau a chyfleusterau sy'n cael eu datblygu i gefnogi pobl i fyw'n annibynnol a chael mynediad at ofal yn agosach at adref.  Edrychaf ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y mentrau hyn yn ei chael ar gymunedau lleol yn y blynyddoedd nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth am Canolfan Pentre Awel, ewch i'r wefan.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi archebu sesiwn ym mhwll hydrotherapi Canolfan Pentre Awel, ewch i'r dudalen wefan.

I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i'r wefan.