Partneriaeth newydd rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Lovell i ddarparu 84 o gartrefi newydd yng Ngorllewin Caerfyrddin
1 awr yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i gytundeb gyda Lovell i ddatblygu ac adeiladu 84 cartref newydd o ddeiliadaeth gymysg, oddi ar Ffordd Pentre yng Ngorllewin Caerfyrddin.
Bydd cynllun Dôl y Castell yn cynnwys 42 o gartrefi ar werth ar y farchnad agored a 42 o gartrefi fforddiadwy ar draws 3.6 hectar, gyda 25 o'r cartrefi ar gael drwy rent cymdeithasol ac 17 ar gyfer perchentyaeth cost isel.
Mae'r cynnig yn cynnwys amrywiaeth o eiddo un, dwy, tair a phedair ystafell wely, gan greu cymuned newydd fywiog a deniadol i bawb o brynwyr tro cyntaf i deuluoedd sy'n tyfu.
Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys mannau gwyrdd agored, llwybrau troed, mannau chwarae a mannau cymdeithasol, gan feithrin cymuned sy'n blaenoriaethu creu lleoedd a llesiant preswylwyr.
Disgwylir i'r gwaith ar y safle ddechrau yn gynnar yn 2027 a'i gwblhau yn 2029, a bydd y cartrefi cyntaf ar werth ar y farchnad agored ddiwedd 2027 a'r cartrefi fforddiadwy cyntaf ar gael yng ngwanwyn 2028.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Schiavone, Aelod Cabinet dros Gartrefi Cyngor Sir Caerfyrddin:
Fel Cyngor, rydyn ni'n falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Lovell ar gynigion ar gyfer 84 o gartrefi newydd oddi ar Ffordd Pendre yng ngorllewin Caerfyrddin. Bydd y cartrefi hyn yn helpu i ddiwallu anghenion unigolion a theuluoedd lleol yn ardal Caerfyrddin."
Mae'r cynlluniau yn rhoi pwyslais cryf ar greu cymdogaeth o ansawdd uchel a chynaliadwy. Mae tua hectar o'r safle wedi'i neilltuo i seilwaith gwyrdd, gan gynnwys mannau agored, llwybrau troed, planhigion, mannau chwarae ac ardaloedd at ddefnydd cymunedol. Mae'r dull hwn yn cefnogi ein hymrwymiad i gyflawni datblygiadau wedi'u cynllunio'n dda sy'n gwella'r amgylchedd ac yn hyrwyddo ymdeimlad cryf o le i breswylwyr y dyfodol.”
Dywedodd Anthony Vagges, rheolwr gyfarwyddwr rhanbarthol Lovell:
Rydyn ni'n falch iawn o fod yn bartner â Chyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu 84 o gartrefi newydd o ansawdd uchel yng Ngorllewin Caerfyrddin. Mae'r datblygiad wedi'i gynllunio'n ofalus o amgylch egwyddorion allweddol Siarter Creu Lleoedd Cymru, gyda nod clir o greu cymuned newydd ffyniannus sy'n gwella'r amgylchedd naturiol ac yn hyrwyddo byw'n gynaliadwy."
Mae'r prosiect hwn yn garreg filltir enfawr i ni yn Lovell, gan helpu i gadarnhau ein sefyllfa ymhellach fel y partner datblygu o ddewis yng Nghymru. Rydyn ni'n awyddus i ddechrau gweithio ar y safle y flwyddyn nesaf a chydweithio â'r Cyngor i drawsnewid y safle hwn yn lle y gall pobl fod yn falch o fyw a gweithio ynddo.”
I gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad, ewch i Gyngor Sir Caerfyrddin
I gael rhagor o wybodaeth am Lovell, ewch i https://www.lovell.co.uk/
