Miloedd yn ymgynnull wrth i Garnifal Nadolig Llanelli sbarduno dathliadau Nadoligaidd

2 awr yn ôl

Croesawodd canol tref Llanelli fwy na 15,000 o ymwelwyr ddydd Gwener 20 Tachwedd 2026 wrth i dyrfaoedd ymgynnull i ddathlu Carnifal Nadolig blynyddol y dref.

Roedd y dathliadau'n cynnwys gorymdaith wych o 20 o lorïau, yn ogystal â lorïau hen ffasiwn, tractorau, a hyd yn oed sled gyda Siôn Corn!

Roedd tylwyth teg yn cerdded ar jacoesau, carw rodeo, lluniaeth a gweithgareddau celf a chrefft yn cynnig hyd yn oed mwy o hwyl Nadoligaidd, ac yna cafodd goleuadau Nadolig Llanelli eu cynnau yn swyddogol dan arweiniad gwahoddedigion anrhydeddus ac enillwyr y gystadleuaeth Dylunio Golau Nadolig i ysgolion.

Roedd y llwyfan cerddoriaeth fyw wedi dychwelyd i Erddi'r Ffynnon gyda rhaglen lawn o berfformiadau gan ysgolion ac artistiaid lleol, gan gynnwys Ysgol Ffwrnes/Trimsaran, Ysgol Bigyn, Ysgol Maes y Morfa, Ysgol Brynsierfel, Llanw, Alys a'r Tri Gŵr Noeth, Betsan Daniel, Coron Moron, Y Goleuni a Manon Rees Ruault. Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Fenter Cwm Gwendraeth.

Diolch yn fawr iawn i wirfoddolwyr Clwb Rotari Llanelli am gydlynu gorymdaith y carnifal ac i Owens Group, M & M Greene ac Oliver Jordan Transport am gyflenwi a gyrru'r cerbydau.

Llongyfarchiadau i Elijah Roberts, Ysgol Dewi Sant a Daisy May Randell, gynt o Ysgol Bryn Teg, a goronwyd yn enillwyr y categorïau babanod ac iau yn y gystadleuaeth dylunio goleuadau Nadolig eleni. Bydd y ddau ddyluniad buddugol yn cael eu harddangos yn y dref yn ystod cyfnod y Nadolig.

Cafodd gwobr y gystadleuaeth Dylunio Golau Nadolig ei rhoi'n garedig gan  Siambr Fasnach Llanelli ac Ymlaen Llanelli.

Carnifal Nadolig Llanelli yw un o'r digwyddiadau Nadolig cymunedol mwyaf yng Nghymru, ac fe'i cyflwynir mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Tref Llanelli, Cyngor Gwledig Llanelli a Bord Gron Llanelli a chaiff y ffair bleser ei chyflenwi gan South Wales Showmen’s Guild.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

"Eleni, darparodd Carnifal Nadolig Llanelli ddathliad Nadoligaidd gwych arall i deuluoedd. Roedd yn arbennig gweld ysbryd cymunedol Llanelli ac ymwelwyr â'r dref yn mwynhau'r achlysur hyfryd hwn unwaith eto.”