Mesurau rheoli traffig hanfodol yn ystod gwaith adfer Neuadd y Dref, Cydweli
4 awr yn ôl
Bydd mesurau rheoli traffig dros dro yn dechrau yng Nghydweli ddydd Mawrth 10 Tachwedd i alluogi gwaith adfer hanfodol yn Neuadd y Dref, Cydweli, sef adeilad rhestredig Gradd II.
Bydd y mesurau, y disgwylir iddyn nhw barhau am tua chwe mis, yn cynnwys goleuadau traffig dwyffordd dros dro yn Stryd y Sarn a chyfyngiad pwysau dros dro o dair tunnell yn Heol Fair wrth i sgaffaldiau gael eu codi ac wrth i atgyweiriadau hanfodol gael eu gwneud i'r adeilad.
Oherwydd lled cyfyngedig Heol Fair ac effaith y sgaffaldiau ar symudiadau troi cerbydau, dim ond ceir fydd yn cael troi i'r chwith ac i'r dde o Stryd y Sarn i Heol Fair. Ni fydd bysiau gwasanaeth a cherbydau dros dair tunnell yn gallu gwneud hynny.
Bydd y prosiect, sy'n cael ei ariannu gan Cadw, yn helpu i warchod yr adeilad, ei wneud yn ddiddos rhag y glaw a'i ddiogelu i’w ddatblygu yn y dyfodol.
