Lansio ymgyngoriadau ar gynigion i ad-drefnu darpariaeth ysgolion cynradd ym mhedwar ysgol gynradd Sir Gaerfyrddin
1 awr yn ôl
Mae cyfnod ymgynghori ffurfiol wedi dechrau heddiw (ddydd Mawrth 10 Tachwedd) i gasglu barn ar ad-drefnu'r ddarpariaeth ysgolion cynradd yn Ysgol Blaenau, Ysgol Pontiets, Ysgol Carwe ac Ysgol Bancffosfelen fel rhan o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg.
Mae'r cyfnod ymgynghori chwe wythnos yn rhoi cyfle i rieni, athrawon, llywodraethwyr ysgolion a'r gymuned ehangach ddweud eu dweud ar y cynigion.
Wedi'i nodi yn Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg y cytunwyd arni ym mis Tachwedd 2024 yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus, mae'r ysgolion arfaethedig wedi'u clustnodi o dan yr ymarfer ail-fodelu, ar sail y meini prawf canlynol:
- Nifer y disgyblion yn eithriadol o isel
- Nifer fawr o leoedd gwag a nifer fawr o'r disgyblion sy'n byw o fewn y dalgylchoedd yn mynychu ysgolion eraill
- Amcanestyniadau yn awgrymu nad yw'n debygol o gwbl bydd nifer y disgyblion yn cynyddu'n ddigonol
- Diffyg yn y gyllideb neu ragweld diffyg yn y gyllideb o fewn y flwyddyn ariannol nesaf, gan arwain at sefyllfa ariannol anghynaladwy
- Costau adnewyddu anghynaladwy oherwydd oedran yr adeiladau
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg, y Cynghorydd Glynog Davies:
Mae'r Rhaglen Moderneiddio Addysg yn canolbwyntio ar greu dyfodol cryfach a mwy cynaliadwy i addysg yn Sir Gaerfyrddin, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol i gefnogi dysgwyr ar draws y sir.
Byddai'r cynigion hyn yn helpu i ymateb i'r heriau sy'n wynebu ysgolion, gan gynnwys niferoedd isel o ddisgyblion a phwysau ariannol, yn ogystal â chefnogi'r ddarpariaeth o addysg o ansawdd uchel i'r holl ddisgyblion."
Bydd yr ymgyngoriadau yn dod i ben ar 22 Rhagfyr 2026. Gellir cyflwyno ymatebion ar-lein drwy wefan y Cyngor, drwy e-bost neu yn ysgrifenedig at:
Mr Owain Lloyd
Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden,
Neuadd y Sir,
Rhiw'r Castell,
Caerfyrddin,
SA31 1JP.
Cafodd Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg ei llunio yn dilyn ymgynghoriad, er mwyn ffurfio rhaglen buddsoddi a threfniadaeth ysgolion yn unol â Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.
