Hysbysiad statudol wedi'i gyhoeddi i gynyddu capasiti Ysgol Heol Goffa

6 awr yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi hysbysiad statudol, yn unol ag Adran 42 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013, sy’n cynnig adleoli a chynyddu capasiti Ysgol Heol Goffa, Llanelli o 118 i 150 o leoedd.

Gall y cyhoedd gyflwyno gwrthwynebiadau am hyd at 28 diwrnod ar ôl y dyddiad cyhoeddi tan 15 Rhagfyr 2026. Mae modd cyflwyno gwrthwynebiadau drwy lenwi'r arolwg ar-lein, drwy e-bost neu yn ysgrifenedig at:

Mr Owain Lloyd
Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden
Neuadd y Sir
Caerfyrddin, SA31 1JP

Os cânt eu cymeradwyo, bydd y cynigion yn dod i rym yn ystod tymor y gwanwyn 2030, pan fydd yr adeilad ysgol newydd yn cael ei feddiannu.