Hud y Nadolig yn dychwelyd i Sir Gâr
11 awr yn ôl
Mae teuluoedd, preswylwyr ac ymwelwyr yn cael eu gwahodd i fwynhau rhaglen lawn o ddigwyddiadau Nadoligaidd ar draws Sir Gâr. O brofiadau Siôn Corn hudolus a chynnau goleuadau Nadolig i farchnadoedd Nadoligaidd, sioeau theatr a gweithgareddau i deuluoedd, Ni'n Gwybod Am Le... i greu atgofion dros y Nadolig.
Mae tymor yr ŵyl yn dechrau gyda digwyddiadau cynnau goleuadau Nadolig ar draws canol trefni Sir Gâr. Bydd goleuadau Nadolig Llanelli yn cael eu cynnau ar 20 Tachwedd, wedyn goleuadau Caerfyrddin ar 21 Tachwedd a Rhydaman ar 27 Tachwedd, gan ddod ag adloniant Nadoligaidd, ysbryd cymunedol a hwyl yr ŵyl i drefi'r sir.
Ym Mharc Gwledig Pen-bre, gall ymwelwyr fwynhau hwyl yr ŵyl gyda'r Llwybr Goleuadau poblogaidd, cyfle i gwrdd â Siôn Corn yn ei Gaban Gaeaf yn y Goedwig, Tiwbio gyda'r Nos o 2 Rhagfyr a Brecwast gyda Siôn Corn ar 5 Rhagfyr. Mae dathliadau'r Nadolig yn parhau drwy gydol y tymor, gan arwain at Drochfa’r Tymor draddodiadol ar Ddydd San Steffan, un o ddigwyddiadau Nadoligaidd mwyaf poblogaidd Sir Gaerfyrddin.
Gall siopwyr Nadolig bori anrhegion lleol a danteithion tymhorol yn Ffair Nadolig Canolfan Pentre Awel ar 29 Tachwedd a Ffair Nadolig Llyfrgell Llanelli ar 5 Rhagfyr. Mae Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin hefyd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau Nadoligaidd drwy gydol mis Rhagfyr, gan gynnwys crefftau i'r teulu, digwyddiadau tymhorol a gweithgareddau ar thema Nadolig i blant.
Mae gan Theatrau Sir Gâr raglen Nadoligaidd lawn y tymor hwn. Gall teuluoedd fwynhau Dick Whittington yn Theatr y Lyric o 10 Rhagfyr, FABBA Mania ar Christmas yn Theatr y Ffwrnes ar 19 Rhagfyr, a chroesawu'r Flwyddyn Newydd gyda Jack and the Beanstalk, sy'n agor ar 14 Ionawr. Gall ymwelwyr hefyd fod yn greadigol yn y Gweithdai Gwneud Torchau Nadolig poblogaidd yn Theatr y Ffwrnes ar 8 Rhagfyr.
Mae amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin hefyd yn ymuno â'r dathliadau Nadoligaidd, gyda gweithgareddau tymhorol, digwyddiadau sy'n addas i deuluoedd a phrofiadau ar thema'r Nadolig.
Gall teuluoedd hefyd fwynhau amrywiaeth o weithgareddau Nadoligaidd ar draws canolfannau hamdden Sir Gaerfyrddin, gyda hwyl yr ŵyl a chyfleoedd i gadw'n egnïol drwy gydol y gwyliau.
Ar draws atyniadau'r sir, gall ymwelwyr fwynhau profiadau Nadoligaidd gan gynnwys ffeiriau crefftau Nadolig yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Dinefwr a Gerddi Aberglasne. Bydd Gateway Resort yn cynnal gweithgareddau teuluol, adloniant Nadoligaidd a rinc iâ go iawn trwy gydol y tymor.
Gall y rhai sy'n dwlu ar reilffyrdd ager fwynhau trenau Siôn Corn hudolus yn Rheilffordd Mynydd Mawr a Rheilffordd Gwili, ac mae Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain yn cynnig profiad Nadoligaidd unigryw lle gall ymwelwyr gwrdd â Siôn Corn yn ogystal â rhai o'r tylluanod a'r adar ysglyfaethus bendigedig yn y ganolfan.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae'r Nadolig yn adeg arbennig o'r flwyddyn yn Sir Gâr, gyda chymunedau, atyniadau a sefydliadau ledled y sir yn dod at ei gilydd i greu rhaglen wych o ddigwyddiadau Nadoligaidd. P'un a ydych chi'n cwrdd â Siôn Corn, yn mwynhau sioe theatr, yn ymweld â marchnad Nadolig neu'n darganfod un o'n hatyniadau niferus, mae yna ddigon o gyfleoedd i greu atgofion hudolus gyda theulu a ffrindiau. Rwy'n annog preswylwyr ac ymwelwyr i archwilio popeth sydd gan Sir Gâr i'w gynnig y Nadolig hwn."
P'un a ydych chi'n chwilio am ymweliad hudolus â Siôn Corn, siopa Nadoligaidd, adloniant i'r teulu neu ddiwrnod allan tymhorol, mae digon i'w fwynhau ledled Sir Gâr y Nadolig hwn. I gael rhagor o ysbrydoliaeth ac i weld rhestrau o'r digwyddiadau, ewch i Ddarganfod Sir Gâr.
