Diwrnod Menter Gymdeithasol 2026 yn dathlu busnesau Sir Gaerfyrddin sy'n gwneud gwahaniaeth

4 awr yn ôl

Bydd Sir Gaerfyrddin yn ymuno â chymunedau ym mhob rhan o'r DU ddydd Iau, 19 Tachwedd 2026, i ddathlu Diwrnod Menter Gymdeithasol a chydnabod y sefydliadau sy'n defnyddio busnes i wneud daioni.

Ar draws Sir Gaerfyrddin, mae mentrau cymdeithasol yn cefnogi iechyd a llesiant, diwylliant, twristiaeth ac addysg, yn ogystal â mynd i'r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol, creu swyddi a diogelu'r amgylchedd. Caiff eu llwyddiant ei fesur nid yn unig yn ôl yr elw, ond hefyd yn ôl yr effaith gadarnhaol maen nhw'n ei chael ar bobl a chymunedau.

Yn wahanol i fusnesau traddodiadol, mae mentrau cymdeithasol yn ailfuddsoddi'r rhan fwyaf o'u helw i hyrwyddo eu hamcanion cymdeithasol neu amgylcheddol. Drwy roi pobl a'r blaned wrth wraidd eu gwaith, maen nhw'n helpu i greu cymunedau cryfach, tecach a mwy gwydn.

I nodi Diwrnod Menter Gymdeithasol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Cwmpas yn annog trigolion, grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau'r sector cyhoeddus i edrych ar sector mentrau cymdeithasol cynyddol y sir drwy'r Cyfeiriadur Mentrau Gymdeithasol, a ddatblygwyd gan y Biwro.

Mae'r cyfeiriadur yn arddangos amrywiaeth o sefydliadau sy'n gweithio yn Sir Gaerfyrddin, gan dynnu sylw at y gwasanaethau, y nwyddau a'r cymorth maen nhw'n eu cynnig a dathlu eu cyfraniad i gymunedau lleol a'r economi leol.

Ers dros 40 o flynyddoedd, mae Cwmpas wedi helpu cymunedau ym mhob rhan o Gymru i ddatblygu busnesau sy'n sicrhau buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan helpu i greu economi decach a gwyrddach a chymdeithas fwy cyfartal.

Mae'r mudiad mentrau cymdeithasol yn rym sylweddol yn genedlaethol, ac mae tua 131,000 o fentrau cymdeithasol yn cynhyrchu tua £78 biliwn i economi'r DU ac yn ailfuddsoddi tua £1 biliwn bob blwyddyn mewn achosion cymdeithasol ac amgylcheddol.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth:

Mae mentrau cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein cymunedau, creu cyfleoedd a mynd i'r afael â heriau lleol. Mae Diwrnod Menter Gymdeithasol yn gyfle i ddathlu'r sefydliadau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn Sir Gaerfyrddin ac i annog mwy o bobl i ddysgu am y gwaith gwerthfawr maen nhw'n ei wneud."

Mae trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol yn cael eu hannog i edrych ar y cyfeiriadur a dysgu am y sefydliadau sy'n helpu i gryfhau cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin.

I gael rhagor o wybodaeth a gweld y Cyfeiriadur Mentrau Cymdeithasol, ewch i:  https://www.sirgar.llyw.cymru/gwasanaethaur-cyngor/gwybodaeth-gymunedol/biwro/mentrau-cymdeithasol-yn-sir-gaerfyrddin/