Digwyddiadau diogelwch ffyrdd am ddim wedi'u cynllunio ledled Sir Gaerfyrddin ar gyfer Wythnos Diogelwch Ffyrdd
9 awr yn ôl
Mae trigolion yn cael eu gwahodd i gyfres o ddigwyddiadau diogelwch ffyrdd am ddim ledled Sir Gaerfyrddin fel rhan o Wythnos Diogelwch Ffyrdd 2026, sy'n cael ei chynnal rhwng 15 a 21 Tachwedd.
Bydd y digwyddiadau, sydd wedi'u trefnu gan Dîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin a sefydliadau partner, yn cynnig cyngor ymarferol, archwiliadau diogelwch ac arddangosiadau byw i helpu pobl i gadw'n ddiogel wrth ddefnyddio'r rhwydwaith ffyrdd.
Mae'r thema ar gyfer Wythnos Diogelwch Ffyrdd eleni, sef "Pobl Saff wrth Symud", yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwneud teithiau'n fwy diogel i bawb, boed hynny'n teithio mewn car, beic, teclyn cymorth symudedd neu ar droed.
Mae'r digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 17 Tachwedd, rhwng 10am a 2pm, yn Smyths Toys, Parc Pemberton, Llanelli, gan gynnig archwiliadau seddi car plant am ddim, archwiliadau diogelwch teiars a chyngor ynghylch diogelwch ffyrdd.
Bydd ail ddigwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Iau 19 Tachwedd, rhwng 10am a 2pm, yng Nghanolfan Siopa Maes Myrddin, Caerfyrddin, lle gall trigolion gael cyngor ynghylch diogelwch cerddwyr, beiciau a cherbydau, cadw beiciau'n ddiogel a deddfwriaeth e-sgwteri.
Bydd y digwyddiad olaf, sy'n cael ei drefnu ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 24 Tachwedd yn J&J Motors, Cross Hands. Bydd gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd yn digwydd rhwng 1pm a 2pm a rhwng 5pm a 6.15pm, a bydd arddangosiadau damweiniau byw ym maes parcio Leekes am 2pm a 6.30pm. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar ddiogelwch cerbydau a chanlyniadau gwrthdrawiadau traffig ffyrdd, yn enwedig i yrwyr ifanc, dysgwyr a gyrwyr newydd gymhwyso.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Mae Wythnos Diogelwch Ffyrdd yn gyfle pwysig i atgoffa pawb bod gan bob un ohonom rôl i'w chwarae wrth gadw ein ffyrdd yn ddiogel. Bydd y digwyddiadau rhad ac am ddim hyn yn darparu cyngor ac arddangosiadau ymarferol i helpu trigolion i wneud dewisiadau mwy diogel a lleihau'r risg o wrthdrawiadau ac anafiadau.
Rydym yn annog pobl o bob oed i ddod draw, siarad â'n tîm diogelwch ffyrdd a'n sefydliadau partner, a dysgu mwy am y camau syml a all helpu i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel."
Mae Wythnos Diogelwch Ffyrdd yn rhoi cyfle i drigolion siarad yn uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol diogelwch ffyrdd a phersonél y gwasanaeth brys a dysgu ffyrdd ymarferol o leihau'r risg o wrthdrawiadau ac anafiadau.
Mae trigolion yn cael eu hannog i fynd i'r digwyddiadau a dilyn @carmarthenshireroadsafety ar Facebook ac Instagram i gael rhagor o wybodaeth a diweddariadau.
