Dathlu 100 mlynedd o Lyfrgell Llanelli
1 awr yn ôl
Mae Llyfrgell Llanelli wedi nodi 100 mlynedd o wasanaeth i gymuned y dref fel llyfrgell gyhoeddus bwrpasol.
Nodwyd yr achlysur gydag amrywiaeth o weithgareddau ac arddangosfeydd arbennig, gan gysylltu pen-blwydd Winnie-the-Pooh yn 100 oed trwy gynnal picnic a gemau tedi bêr. Mae'r llyfrgell hefyd yn dathlu 100 mlynedd ers i Agatha Christie gyhoeddi The Murder of Roger Ackroyd, ei thrydedd nofel gyda Hercule Poirot, trwy wahodd ymwelwyr i ddatrys dirgelwch o amgylch y llyfrgell.
Roedd arddangosfeydd yn dangos ffotograffau o orffennol y llyfrgell i'r presennol, gan ddathlu hanes, atgofion a cherrig milltir y llyfrgell dros y ganrif ddiwethaf.
Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol ym 1857 trwy danysgrifiad cyhoeddus, ac mae'r canmlwyddiant yn nodi canrif ers i adeilad yr Athenaeum ddechrau pennod newydd ac ailagor ym 1926 fel llyfrgell gyhoeddus.
Yn sefyll yng nghanol Llanelli ers cenedlaethau ac yn croesawu miloedd o ymwelwyr, mae'r adeilad wedi bod yn ganolbwynt dysgu, diwylliant a bywyd cymunedol ers amser maith trwy gynnal darlithoedd, cyngherddau, gweithgareddau addysgol, digwyddiadau cymdeithasol a chyfarfodydd cyhoeddus.
Daeth y llyfrgell yn llyfrgell gyhoeddus am ddim ym 1898. Wrth i'r galw am wasanaethau gynyddu, trawsnewidiwyd adeiladau'r Athenaeum a Nevill Memorial cyn ailagor ym 1926 yn dilyn buddsoddiad sylweddol gan Ymddiriedolaeth Carnegie.
Drwy gydol y ganrif ddiwethaf, mae Llyfrgell Llanelli wedi datblygu ac ehangu ei gwasanaethau yn barhaus gan aros yn driw i'w phwrpas gwreiddiol o ddarparu mynediad am ddim at wybodaeth a chyfleoedd. Yn dilyn gwaith adnewyddu mawr a gwblhawyd yn 2012, cyfunwyd treftadaeth gyfoethog yr adeilad â chyfleusterau modern, gan helpu i sicrhau ei ddyfodol ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Mae'r llyfrgell hefyd yn gartref i un o gasgliadau hanes lleol mwyaf arwyddocaol Cymru, sy'n cadw miloedd o ddogfennau, ffotograffau a chofnodion sy'n adrodd hanes Llanelli a'i phobl.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae Llyfrgell Llanelli wedi bod wrth wraidd bywyd cymunedol ers cenedlaethau ac mae ei chanmlwyddiant yn gyfle gwych i ddathlu adeilad hanesyddol rhyfeddol, ynghyd â'r bobl sydd wedi ei wneud yn rhan mor werthfawr a bywiog o'r gymuned.
Mae Llyfrgell Llanelli yn llawer mwy na lle i fenthyg llyfrau. Mae'n gwasanaethu fel canolfan gymunedol fywiog sy'n cynnig mynediad digidol, cyfleoedd dysgu, gweithgareddau creadigol, adnoddau hanes teulu, arddangosfeydd, digwyddiadau, gwasanaethau cymorth a rhaglenni cymunedol i bobl o bob oedran.”
