DATGANIAD – Ymateb i Pawb A’i Farn 19/11/2026

9 awr yn ôl

Gan fod y broses ymgynghori ffurfiol yn mynd rhagddi, ac yn unol â'n rhwymedigaethau cyfreithiol i aros yn ddiduedd, ar yr achlysur yma, nid ydym yn gallu cymryd rhan yn y drafodaeth heno (19/11/2026).
Rydym yn deall ac yn gwerthfawrogi cymaint y mae Ysgol Blaenau, Ysgol Pontiets, Ysgol Carwe ac Ysgol Bancffosfelen yn ei olygu i'r disgyblion, y teuluoedd a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ynglŷn â dyfodol yr ysgolion hyn. Mae'r ymgynghoriad presennol yn gyfle i bawb yr effeithir arnynt rannu eu barn cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud.
Mae'r Cyngor yn ymgynghori ynghylch y cynigion hyn, mewn sefyllfa lle mae gostyngiad yn nifer y disgyblion, cynnydd yn nifer y lleoedd gwag a phwysau sylweddol o safbwynt ariannol ac o safbwynt yr ystad ar draws y sector ysgolion cynradd. Dyma rai o'r ffactorau sydd wedi peri i'r Cyngor ystyried a allai fod angen gwneud newidiadau i'r ddarpariaeth bresennol drwy ei Raglen Moderneiddio Addysg.
Ym mis Ionawr 2026, roedd gan Sir Gaerfyrddin fwy na 1,000 yn llai o ddisgyblion cynradd o oedran statudol nag yn 2021 a mwy na 3,500 o leoedd gwag ar draws 94 o ysgolion cynradd y sir. Roedd nifer yr ysgolion â 50 o ddisgyblion neu lai hefyd wedi cynyddu o 18 ym mis Ionawr 2024 i 22 ym mis Ionawr 2026.
Mae'r newidiadau demograffig hyn yn arwain at oblygiadau ariannol oherwydd bod niferoedd disgyblion yn dylanwadu'n fawr ar gyllid ysgolion. Cofnodwyd diffyg ariannol o £9.5 miliwn yng nghyllideb ysgolion y Cyngor ar ddiwedd 2025–26, sy'n dangos y pwysau ariannol ehangach sy'n effeithio ar y ddarpariaeth addysg.
Mae'r cynigion presennol yn rhan o Raglen Moderneiddio Addysg Sir Gaerfyrddin. Er bod y cynigion yr ymgynghorir yn eu cylch yn cynnwys cau'r pedair ysgol hyn, nid oes penderfyniad i’w cau wedi ei wneud ymlaen llaw. Bydd y Cyngor yn ystyried yr ymatebion sy'n dod i law drwy'r ymgynghoriad, ynghyd â'r dystiolaeth a'r asesiadau perthnasol, cyn penderfynu pa gamau pellach, os o gwbl, y dylid eu cymryd."

Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Addysg