Darganfod Sir Gâr yn lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth ar draws y sir

1 awr yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd ffotograffwyr o bob gallu i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ffotograffiaeth newydd sy'n dathlu tirweddau, arfordir, bywyd gwyllt, treftadaeth, diwylliant a chymunedau trawiadol yn y sir.

 

Mae’r gystadleuaeth, o'r enw "Ni'n Gwybod am Le... Dangoswch eich Un Chi", a lansiwyd ym mis Hydref yn annog ymgeiswyr i ddal cymeriad unigryw Sir Gâr trwy eu lens eu hunain a rhannu'r lluniau sy'n adrodd stori'r sir orau.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â Chymdeithas Ffotograffig Llanelli a Choleg Sir Gâr, gan helpu i ymgysylltu â ffotograffwyr profiadol a'r rheiny sy'n dechrau ennill eu plwy o bob cwr o'r sir.

Gellir cyflwyno ffotograffau i un o bedwar categori:

  • Treftadaeth a Diwylliant
  • Tirweddau ac Arfordir 
  • Bywyd Gwyllt ac Anifeiliaid
  • Digwyddiadau a Gwyliau

Bydd y lluniau dethol yn cael eu harddangos mewn arddangosfa gyhoeddus yn un o leoliadau y Cyngor Sir, gan roi cyfle i ffotograffwyr arddangos eu gwaith i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

 

Mae'n bosibl y bydd y lluniau yn cael eu rhannu ar wefan Darganfod Sir Gâr, sianeli cyfryngau cymdeithasol ac ymgyrchoedd marchnata twristiaeth yn y dyfodol.

 

Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb, o rai sy'n newydd iddi i ffotograffwyr profiadol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

 

Mae Sir Gaerfyrddin yn gartref i dirweddau, arfordiroedd, safleoedd treftadaeth, digwyddiadau a chymunedau gwirioneddol ysbrydoledig, ac mae'r gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i'w harddangos trwy lygaid y rhai sy'n adnabod ac yn caru'r sir orau. Rydyn ni'n annog pobl o bob oedran a gallu i gymryd rhan, p'un a ydych chi'n ffotograffydd profiadol neu'n mwynhau tynnu lluniau wrth grwydro'r sir. Edrychwn ymlaen at weld y lluniau yn cael eu cyflwyno a rhannu detholiad ohonynt drwy arddangosfeydd yn lleoliadau Cyngor Sir Caerfyrddin, yn ogystal â'n gweithgaredd marchnata twristiaeth ehangach, gan helpu i ddathlu a hyrwyddo popeth sydd gan Sir Gaerfyrddin i'w gynnig." 

 

Mae ceisiadau'n agor ym mis Hydref 2026. E-bostiwch eich cynnig i Twristiaeth@sirgar.gov.uk 

 

Bydd rhagor o fanylion, canllawiau cystadleuaeth a gwybodaeth am geisiadau ar gael ar wefan cystadleuaeth ffotograffiaeth Sir Gâr