Cynllun Cymorth Prynu yn helpu preswylwyr i brynu eiddo am y tro cyntaf

5 awr yn ôl

Mae pobl sy'n bwriadu prynu eu cartref eu hunain yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hannog i fwrw golwg ar y Cynllun Cymorth Prynu, sy'n helpu aelwydydd cymwys i brynu eiddo na fydden nhw fel arall yn gallu ei fforddio.

Wedi'i ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Wales & West, mae'r cynllun a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn darparu benthyciad ecwiti i helpu i bontio'r bwlch fforddiadwyedd, gan leihau'r swm y mae angen ei fenthyg drwy forgais.

Mae'r cynllun wedi'i anelu at bobl leol nad ydyn nhw'n gallu diwallu eu hanghenion tai drwy'r farchnad agored heb gymorth, gan gynnwys y rhai sy'n edrych i symud o rentu preifat neu dai cymdeithasol i berchen ar gartref.

Yn nodweddiadol, gall Cynllun Cymorth Prynu ddarparu benthyciad ecwiti o rhwng 20% a 40% o werth marchnad eiddo, gan helpu i sicrhau bod perchnogaeth gartref yn fwy hygyrch wrth ganiatáu i brynwyr fod yn berchen ar eu cartref yn llwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun gan gynnwys cymhwysedd a sut i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Schiavone, Aelod Cabinet dros Gartrefi Cyngor Sir Caerfyrddin:

Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl a theuluoedd yn anelu at fod yn berchen ar eu cartref eu hunain ond gallan nhw ei chael hi'n anodd pontio'r bwlch rhwng yr hyn y gallan nhw ei fforddio a phrisiau cyfredol y farchnad. Mae'r Cynllun Cymorth Prynu yn darparu cymorth gwerthfawr i breswylwyr cymwys, gan eu helpu i gael mynediad at berchnogaeth cartrefi fforddiadwy wrth alluogi pobl i aros yn y cymunedau lle maent yn byw, yn gweithio ac â chysylltiadau teuluol ynddyn nhw. Rydyn ni'n annog unrhyw un sy'n meddwl y gallen nhw fod yn gymwys i gysylltu a chael gwybod mwy."

I gael rhagor o wybodaeth am Gymorth Prynu Sir Gaerfyrddin, ewch i: Prynu Cartref Sir Gaerfyrddin - Cyngor Sir Caerfyrddin