Cyngor Sir Caerfyrddin yn lansio ei apêl Teganau Nadolig 2026

22 awr yn ôl

Mae anrhegion newydd ac arian bellach yn cael eu derbyn ar gyfer apêl Teganau Nadolig 2026 Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n cefnogi cannoedd o deuluoedd yn y sir bob Nadolig.

Cafodd bron i 9,000 o anrhegion eu dosbarthu i 1,453 o blant ar ddiwedd apêl y llynedd, gan roi cymorth gwerthfawr i deuluoedd sy'n cael trafferthion ariannol ac yn methu fforddio prynu anrhegion i'w plant. Eleni, mae'r Apêl Teganau Nadolig hefyd yn cael ei chefnogi gan Fyddin yr Iachawdwriaeth Caerfyrddin a Llanelli. 
Mae modd rhoi rhoddion mewn mannau ledled y sir. Gallwch chi weld rhestr lawn ar y dudalen Newyddion ar wefan y Cyngor.

Mae'r apêl yn derbyn amrywiaeth eang o anrhegion gan gynnwys gemau, teganau, eitemau celf a chrefft a phethau ymolchi ar gyfer pob oedran (18 mis hyd at bobl ifanc yn eu harddegau). Yn anffodus, nid yw'r apêl yn gallu derbyn rhoddion wedi'u defnyddio neu rai ail-law, ond mae modd rhoi'r eitemau hyn i Eto, sef prosiect atgyweirio ac ailddefnyddio y Cyngor, yn un o'r canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.
Mae'r gwaith o nodi teuluoedd a phlant sydd â'r angen mwyaf am gymorth gan yr Apêl Teganau Nadolig yn cael ei wneud gan ysgolion, canolfannau teulu, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr ieuenctid. Yna bydd staff y Cyngor Sir yn dosbarthu'r rhoddion yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Mae'r apêl, a sefydlwyd yn 2011, yn sicrhau bod plant lleol, a fyddai wedi cael dim neu ychydig iawn fel arall, yn cael anrheg adeg y Nadolig.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Schiavone, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n gyfrifol am drechu tlodi:

"Er bod y Nadolig yn gyfnod llawen ac arbennig i lawer, mae hefyd yn gallu bod yn un o gyfnodau mwyaf anodd y flwyddyn i deuluoedd sy'n wynebu caledi ariannol.
Mae'r haelioni sy'n cael ei ddangos gan drigolion, grwpiau cymunedol, ysgolion, sefydliadau a busnesau lleol ledled Sir Gaerfyrddin yn parhau i wneud gwahaniaeth mawr i deuluoedd sydd angen cymorth.
Unwaith eto, rydyn ni'n gofyn i'r rhai sy'n gallu helpu ystyried cefnogi'r apêl. Boed drwy gyfrannu’n ariannol neu roi anrheg, bydd pob gweithred garedig yn helpu i sicrhau bod plant a theuluoedd lleol yn gallu mwynhau Nadolig hapusach."


Gallwch chi roi rhoddion ariannol ar-lein. Os hoffech chi roi arian parod neu siec, ffoniwch 01267 246507.

Dyma restr lawn o'r mannau cyflwyno rhoddion:

  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin
  • Neuadd y Sir, Caerfyrddin
  • HWB Bach y Wlad (mannau amrywiol – gweler rhaglen Hwb Bach y Wlad)
  • Morrisons, Caerfyrddin
  • Tesco, Caerfyrddin
  • Canolfan Hamdden Caerfyrddin    
  • Amgueddfa Caerfyrddin    
  • Byddin yr Iachawdwriaeth, Caerfyrddin    
  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Llanelli
  • Tesco, Trostre, Llanelli
  • Morrisons, Parc Manwerthu Pemberton
  • Pentre Awel, Llanelli
  • Byddin yr Iachawdwriaeth, Llanelli
  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Rhydaman
  • Canolfan Hamdden Dyffryn Aman
  • Tesco, Rhydaman
  • Canolfan Gymunedol Cwmaman
  • Garej Derwydd, Llandybïe
  • Hengwrt (Menter Dinefwr) Llandeilo
  • Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri
  • Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn
  • Siop Llawn Cariad Sanclêr
  • Burns, Cydweli
  • Neuadd Mynyddygarreg, Cydweli
  • JJ Motors, Cross Hands
  • Neuadd y Gwendraeth, Llanelli
  • Neuadd Goffa Pontyberem