CofGâr yn lansio gwefan newydd i drawsnewid mynediad i ddiwylliant a threftadaeth Sir Gâr

2 awr yn ôl

Mae CofGâr wedi lansio'i wefan newydd, gan nodi cam mawr ymlaen yn y gwaith o wneud amgueddfeydd a straeon Sir Gâr yn fwy hygyrch, cynaliadwy a diddorol i ymwelwyr ar draws Cymru a thu hwnt.

Gyda chefnogaeth cyllid gan Raglen Grant Cyfalaf Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant Llywodraeth Cymru, mae'r ailddatblygiad yn dilyn twf cyflym CofGâr yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac yn ymateb i anghenion newidiol cynulleidfaoedd. Mae'r wefan newydd, sydd wedi'i dylunio gan Four Agency, yn cyflwyno ystod o welliannau, gan gynnwys gwell hygyrchedd dwyieithog i fodloni Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefan (WCAG) 2.2, llywio symlach a chyflymder llwytho cyflymach, yn ogystal â pherfformiad amgylcheddol llawer gwell sy'n golygu mai dyma'r wefan 'wyrddaf' ar gyfer amgueddfa yng Nghymru. Mae'r platfform hefyd yn cryfhau brand y gwasanaeth ac yn ei hyrwyddo drwy gynnwys lliwiau trawiadol pob amgueddfa CofGâr.

Yn ogystal â gwella gwasanaethau presennol, mae'r wefan yn darparu'r sylfeini ar gyfer arloesi digidol yn y dyfodol, gan gynnwys teithiau rhithwir, arddangosfeydd ar-lein, adnoddau dysgu gwell a gweithdai o bell, a ffyrdd newydd i gynulleidfaoedd archwilio casgliadau drwy fynediad i'r gronfa ddata casgliadau.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae ein hamgueddfeydd a'n lleoliadau diwylliannol yn cadw rhai o straeon pwysicaf Sir Gâr, ond yn y byd heddiw mae'n rhaid i'r straeon hynny fod yn hygyrch yn bersonol ac ar-lein."
Mae'r wefan newydd hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wneud diwylliant yn fwy cynhwysol, croesawgar a chynaliadwy. Bydd yn helpu pobl i ddarganfod casgliadau amgueddfeydd cyhoeddus, cynllunio ymweliadau, ymgysylltu â chyfleoedd dysgu a chysylltu â threftadaeth gyfoethog Sir Gâr ble bynnag y maen nhw yn y byd."

Mae'r gwaith ailddatblygu hefyd yn cefnogi nod ehangach CofGâr o ddod yn wasanaeth mwy cynaliadwy yn amgylcheddol. Drwy gyflwyno pensaernïaeth gwefan fwy effeithlon ac atebion digidol carbon is, mae'r sefydliad yn gweithio tuag at leihau effaith amgylcheddol ei weithgaredd ar-lein yn sylweddol wrth wella profiad cyffredinol y defnyddiwr yn unol â Prosiect Sero Net Sir Gâr.

Gall ymwelwyr archwilio'r wefan newydd drwy fynd i https://cofgar.cymru.