Chwyddiant yn rhoi mwy o bwysau ar Gyllideb y Cyngor o £810 miliwn
2 awr yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhybuddio ei fod yn wynebu her ariannol ddifrifol a pharhaus wrth i'r costau a'r galw cynyddol roi mwy o bwysau ar y gwasanaethau y mae trigolion yn dibynnu arnyn nhw bob dydd.
Mae chwyddiant yn cynyddu’r pwysau hwn, a bellach mae disgwyl i chwyddiant aros yn uchel am gyfnod hir. Yn ôl tîm Dadansoddi Cyllidol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, disgwylir i chwyddiant yn 2027 fod yn 3.4% ar gyfartaledd erbyn hyn yn lle 2% fel y rhagwelwyd yn flaenorol. Mae hyn yn golygu bod y cyllid mae’r Cyngor yn ei gael yn prynu llai, tra bod costau cyflog, ynni a chostau gweithredu eraill yn parhau i godi.
Ym mlwyddyn ariannol 2026-27, mae'r Cyngor yn rheoli cyllideb o £810 miliwn i gefnogi a darparu gwasanaethau ledled Sir Gaerfyrddin. Mae'r rhain yn cynnwys addysg, gofal cymdeithasol, cynnal a chadw priffyrdd, casglu gwastraff ac ailgylchu, gwasanaethau amgylcheddol a chymorth tai.
Fodd bynnag, ni ddylid camgymryd maint y gyllideb am hyblygrwydd ariannol. Mae sefyllfa ariannu'r Cyngor fwy na £150 miliwn yn waeth mewn termau real nag yr oedd ar ddechrau'r cyfnod o gyni cyllidol.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r Cyngor wneud dewisiadau cynyddol anodd. Rhaid i'r Cyngor gydbwyso’r angen i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a hanfodol â gosod cyllideb gynaliadwy, gwneud arbedion, a chadw'r Dreth Gyngor mor isel â phosibl. Mae’r sefyllfa ariannol yn effeithio ar allu’r Cyngor i ymdopi â phwysau pellach heb fod canlyniadau i’r ffordd caiff gwasanaethau eu cyllido neu eu darparu.
Mae cysylltiad agos rhwng sefyllfa ariannol y Cyngor a phenderfyniadau yn y Senedd a San Steffan. Mae llawer o gyllid Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar grant bloc y DU, sy'n golygu bod cyfyngiadau ar gynnydd mewn gwariant ar lefel y DU—yn enwedig pan fo chwyddiant yn codi—yn effeithio ar yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
I helpu trigolion i ddeall y sefyllfa, mae'r Cyngor wedi creu dau fideo byr sy'n egluro o ble mae ei gyllid yn dod a sut y caiff yr arian ei ddyrannu i wasanaethau o ddydd i ddydd.
Dim ond 17% o gyllid y Cyngor sy'n dod o'r Dreth Gyngor. Daw 42% arall o Lywodraeth Cymru, sydd yn ei dro yn dibynnu ar y grant bloc gan Lywodraeth y DU. Mae incwm o wasanaethau'r Cyngor yn cyfrif am 16%, grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am 10%, Ardrethi Busnes a osodir gan Lywodraeth Cymru am 8%, a rhenti tai am 7%.
Gyda'i gilydd, mae'r ffynonellau hyn yn cyllido gwasanaethau rheng flaen a'r swyddogaethau cymorth hanfodol sy'n sicrhau bod y sir yn gweithredu'n effeithiol. Rhaid i'r Cyngor asesu cost cynnal gwasanaethau, ystyried pwysau ariannol, nodi cyfleoedd i wneud arbedion ac ystyried y cyllid sydd ar gael cyn y gall bennu ei gyllideb flynyddol.
Mae strategaeth y gyllideb yn cael ei datblygu trwy broses fanwl sy'n cynnwys aelodau etholedig, pwyllgorau craffu ac ymgynghori â'r cyhoedd. Mae'r cynigion yn cael eu harchwilio cyn cael eu cymeradwyo gan y Cabinet a'u cytuno'n ffurfiol gan y Cyngor Sir.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adnoddau:
Ni ellir gorbwysleisio difrifoldeb y sefyllfa ariannol. Mae sefyllfa ariannu'r Cyngor Sir fwy na £150 miliwn yn waeth mewn termau real nag ar ddechrau'r cyfnod o gyni, ac mae costau darparu gwasanaethau a'r galw amdanynt yn parhau i gynyddu.
Byddwn yn ystyried pob opsiwn yn ofalus wrth baratoi'r gyllideb, ond mae'r penderfyniadau sy'n ein hwynebu yn fwyfwy anodd. Rydyn ni'n gweithio i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a chadw’r Dreth Gyngor mor isel â phosibl, ond ni allwn anwybyddu maint y bwlch rhwng yr adnoddau sydd ar gael a'r pwysau a wynebwn.
Mae pob punt yn bwysig. Mae penderfyniadau a wneir drwy'r broses gyllideb yn cael effaith uniongyrchol ar y gwasanaethau y mae pobl yn eu defnyddio bob dydd. Rydyn ni eisiau i drigolion ddeall sut y caiff y Cyngor ei ariannu a pham mae cynnal ehangder ac ansawdd y gwasanaethau yn yr hinsawdd ariannol hon yn her mor sylweddol."
Gall trigolion wylio dau fideo byr sy'n dangos o ble mae pob £1 o gyllid y cyngor yn dod, a sut y caiff ei wario: https://www.sirgar.llyw.cymru/cyngor-a-democratiaeth/y-cyllideb-y-cyngor/
Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar 17 Tachwedd 2026; felly mae setliad cyllid y Cyngor yn dal heb ei gadarnhau.
--
