Carnifal a Chynnau Goleuadau Nadolig Llanelli ar 20 Tachwedd
11 awr yn ôl
Rydyn ni wedi dechrau cyfri'r diwrnodau tan y Nadolig yn swyddogol wrth i gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin baratoi i ddathlu cyfnod yr ŵyl, gan ddechrau gyda Charnifal Nadolig Llanelli ddydd Gwener 20 Tachwedd.
Bydd y dathliadau eleni yn dechrau yn Llanelli am 1.30pm gydag un o ddigwyddiadau cymunedol mwyaf Cymru adeg y Nadolig, sef cynnau'r goleuadau Nadolig a gorymdaith y carnifal.
Bydd y gweithgareddau, sy'n cael eu darparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, gyda chefnogaeth gan Gyngor Tref Llanelli a Chyngor Gwledig Llanelli, yn dechrau am 1.30pm pan fydd y llwyfan cerddoriaeth fyw yn dychwelyd i Erddi'r Ffynnon. Bydd y rhaglen, sydd wedi'i threfnu gan Fenter Cwm Gwendraeth, yn cynnwys perfformiadau gan ysgolion ac artistiaid lleol, gan gynnwys Ysgol Ffwrnes/Trimsaran, Ysgol Bigyn, Ysgol Maes y Morfa, Ysgol Brynsierfel, Llanw, Alys a'r Tri Gŵr Noeth, Betsan Daniel, Coron Moron, Y Goleuni a Manon Rees Ruault.
O 5pm ymlaen, gall ymwelwyr â Gerddi'r Ffynnon fwynhau tylwyth teg yn cerdded ar jacoesau, carw rodeo, lluniaeth a gweithgareddau celf a chrefft. Bydd y goleuadau yn cael eu cynnau am 6.15pm yn ardal y llwyfan, dan arweiniad gwahoddedigion anrhydeddus ac enillwyr y gystadleuaeth Dylunio Golau Nadolig i ysgolion.
Bydd gorymdaith y carnifal eleni, sy'n cael ei threfnu gan Glwb Rotari Llanelli a'i chefnogi gan Owens Group, M & M Greene ac Oliver Jordan Transport, yn cynnwys 20 o lorïau wedi'u haddurno, hen dractorau, Siôn Corn a mwy na 300 o gyfranogwyr. Gan adael y Meysydd Gŵyl ar Heol y Sandy am 6.10pm, mae disgwyl i'r orymdaith gyrraedd ardal Neuadd y Dref tua 7pm. Ymhlith y grwpiau sy'n cymryd rhan mae Ysgol Coedcae, Ysgol Penrhos, Rygbi'r Scarlets, Tiny Tots Town ac Allstarz Dance.
Er mwyn galluogi'r carnifal i fynd rhagddo'n ddiogel, bydd nifer o ffyrdd ar gau o 5.45pm ymlaen ac rydyn ni’n cynghori ymwelwyr i gynllunio eu taith ymlaen llaw.
Mae sioe tân gwyllt wych uwchben Neuadd y Dref wedi'i threfnu am tua 7.40pm, gan ddibynnu ar gynnydd gorymdaith y carnifal. Bydd y ffair, sy'n dychwelyd i'w lleoliad hanesyddol ym maes parcio Vauxhall, yn agor am 4pm ac yn aros ar agor tan 9pm. Er mwyn cynnal y ffair, bydd maes parcio Vauxhall ar gau o 6.30pm ddydd Iau 19 Tachwedd tan 6am ddydd Sadwrn 21 Tachwedd.
Er mwyn hwyluso'r digwyddiad, bydd Stryd Cowell ar gau o 12pm, a bydd ffyrdd eraill ar gau o 5.45pm, sef Gelli Onn tua'r gorllewin, Stryd yr Eglwys a'r ffyrdd cyfagos. Rydyn ni'n cynghori ymwelwyr i gynllunio eu taith ymlaen llaw, gan y bydd cyfyngiadau ar draffig yn effeithio ar ganol y dref tan tua 8pm.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae'r digwyddiadau Nadoligaidd hyn yn ffordd wych o ddod â chymunedau at ei gilydd a dechrau tymor y Nadolig. O'r gorymdeithiau bywiog yn Llanelli i'r gerddoriaeth, y marchnadoedd a'r tân gwyllt yng Nghaerfyrddin a Rhydaman, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau. Rwy'n gobeithio y bydd teuluoedd o bob rhan o'r sir yn dod i brofi hwyl yr ŵyl a dechrau tymor y Nadolig."
Carnifal Nadolig Llanelli – Amserlen y diwrnod
- 12pm - Stryd Cowell yn cau
- 1.30pm - Adloniant byw yn dechrau yng Ngerddi'r Ffynnon
- 4pm - Ffair yn agor ym maes parcio Vauxhall
- 5.45pm - Trefniadau cau ffyrdd yn dod i rym
- 6.10pm - Gorymdaith y carnifal yn gadael y Meysydd Gŵyl
- 6.15pm - Cynnau'r Goleuadau Nadolig
- 6.50pm - Gorymdaith y carnifal yn cyrraedd ardal Neuadd y Dref
- 7.40pm - Sioe tân gwyllt (gallai hyn newid)
- 9pm - Ffair yn cau
Sylwch y gallai'r holl amserau a'r gweithgareddau newid. Bydd ffyrdd yn cael eu cau o 12pm ymlaen a bydd hyn yn effeithio ar draffig yng nghanol y dref tan tua 8pm. Gallai amser y sioe tân gwyllt newid yn dibynnu ar gynnydd gorymdaith y carnifal.
Bydd dathliadau Nadolig yn parhau ledled y sir a bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yng Nghaerfyrddin, Rhydaman, Llanymddyfri, Glanyfferi a Phorth Tywyn.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.
