Cabinet y Cyngor yn cytuno i gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Heol Goffa i 150

1 awr yn ôl

Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno i symud Ysgol Heol Goffa i safle newydd a chynyddu nifer y lleoedd i 150 yn ei gyfarfod ddydd Llun 2 Tachwedd 2026.

Mae'r penderfyniad yn amodol ar gyfnod rhybudd statudol, a fydd yn dechrau ddydd Mawrth 17 Tachwedd 2026 am gyfnod o 28 diwrnod, sy'n rhoi cyfle pellach i rieni, athrawon, llywodraethwyr a chymuned ehangach yr ysgol ddweud eu dweud.

Bydd yr ysgol newydd yn cynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu difrifol (SLD) ac anawsterau dysgu dwys a lluosog (PMLD) yn ardal Llanelli. Mae gwaith ychwanegol eisoes yn digwydd i ateb y galw gan ddisgyblion ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) yn Llanelli drwy ddulliau eraill.

Mae'r penderfyniad hwn yn dilyn penderfyniad blaenorol y Cabinet i ddatblygu ysgol newydd i gynyddu nifer y lleoedd i gwrdd â'r galw a ragwelir ar hyn o bryd, yn dilyn adolygiad annibynnol ar addysg arbenigol yn Llanelli ac ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg:

“Bydd penderfyniad y Cabinet yn galluogi mwy o ddisgyblion yn ardal Llanelli gydag SLD a PMLD i dderbyn addysg arbenigol drwy gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Heol Goffa.

Y cam nesaf yw i ni symud ymlaen i hysbysiad statudol, a gallwn, os cytunwyd arno yn y Cyngor Llawn, symud ymlaen gyda dyfodol newydd cyffrous Ysgol Heol Goffa.”