Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus newydd i gryfhau cydweithio rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin

1 diwrnod yn ôl

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a Sir Gâr wedi uno'n ffurfiol i greu un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sy'n gwasanaethu'r ddwy sir, sy'n nodi cam sylweddol ymlaen i gryfhau cydweithredu gwasanaethau cyhoeddus ledled gorllewin Cymru.

Bydd y Bwrdd newydd yn adeiladu ar gyflawniadau'r ddau Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus blaenorol, gan leihau dyblygu a galluogi partneriaid i rannu arbenigedd, adnoddau a dysgu yn fwy effeithiol er mwyn gwella canlyniadau i gymunedau ledled Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Yn ei gyfarfod cyntaf, etholwyd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn Gadeirydd. Etholwyd Huwel Manley a Gavin Bown, Penaethiaid Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru, yn Is-gadeiryddion ar y cyd.

Meddai Dr Gjini:

"Mae uno Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a Sir Gaerfyrddin yn garreg filltir arwyddocaol o ran cryfhau cydweithredu gwasanaethau cyhoeddus ar draws ein rhanbarth.

Mae'n adlewyrchu'r aliniad cryf rhwng y ddau gyn-Fwrdd a'u hymrwymiad cyffredin i wella llesiant ein cymunedau. Er bod gan Sir Gaerfyrddin a Cheredigion eu nodweddion unigryw a'u blaenoriaethau lleol eu hunain, maent hefyd yn rhannu llawer o heriau a chyfleoedd cyffredin.

Mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn cael mynediad at wasanaethau ar draws y ddwy sir mewn ffyrdd sy'n cysylltu'n naturiol ein cymunedau. Trwy ddod â'n hymdrechion at ei gilydd trwy un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gallwn adeiladu ar bartneriaethau presennol, gwneud gwell defnydd o'n hadnoddau ar y cyd a chryfhau ein gallu i gyflawni amcanion y Cynllun Llesiant ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Yn bwysicaf oll, bydd hyn yn ein helpu i wella canlyniadau i drigolion a chymunedau ar draws y ddwy sir."

Dywedodd Hazel Lloyd-Lubran, Prif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion a chyn-Gadeirydd BGC Ceredigion:

Diolch o galon i bawb sydd wedi chwarae eu rhan yng ngwaith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym nawr yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn Sir Gaerfyrddin i wireddu ein huchelgeisiau a rennir, cryfhau ein cymunedau a gwella bywydau pobl ar draws y rhan arbennig hon o Gymru."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Linda Evans, cyn-Gadeirydd Bwrdd Gwasnaethau Cyhoeddus Sir Gâr:

Bydd uno Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn rhoi cryfder trwy gydweithio ac yn galluogi adnoddau i gael eu rhannu'n fwy effeithiol rhwng y ddwy sir. Edrychaf ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y BGC cyfunol newydd hwn yn ei chael i'n cymunedau."

Sefydlwyd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i gryfhau cydweithredu rhwng cyrff cyhoeddus a gwella llesiant hirdymor cymunedau ledled Cymru. Maent yn dod â phartneriaid allweddol at ei gilydd i asesu llesiant lleol, cytuno ar amcanion a blaenoriaethau a rennir, a chyflawni camau cydgysylltiedig i wella canlyniadau i bobl leol.