Ail-lansio llwybr aml-ddefnyddiwr pwrpasol cyntaf Sir Gâr
6 awr yn ôl
Mae'r llwybr aml-ddefnyddiwr pwrpasol cyntaf o'i fath yn Sir Gâr wedi'i ail-lansio yn dilyn rhaglen o welliannau, gan wella hygyrchedd a chyfleoedd i farchogion, cerddwyr a beicwyr fwynhau cefn gwlad gogledd Sir Gâr.
Ail-lansiwyd Llwybr Cothi ar 19 Tachwedd mewn digwyddiad a fynychwyd gan gynrychiolwyr o Gyngor Sir Caerfyrddin, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cymdeithas Ceffylau Prydain, grwpiau defnyddwyr lleol a disgyblion o Ysgol Talyllychau.
Gan gysylltu pentrefi hanesyddol Caio a Pumsaint, mae'r llwybr sy'n addas i deuluoedd yn darparu mynediad aml-ddefnyddiwr pwrpasol i farchogion, cerddwyr a beicwyr, gan alluogi mwy o bobl i fwynhau harddwch naturiol a threftadaeth gyfoethog yr ardal.
Wedi'i ariannu drwy Grant Gwella Mynediad (AIG) Llywodraeth Cymru gwerth £20,000, mae'r prosiect yn cefnogi uchelgeisiau Strategaeth Mynediad i Farchogwyr Cyngor Sir Caerfyrddin, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, sy'n anelu at wella ac ehangu cyfleoedd mynediad marchogaeth ledled y sir.
I gefnogi'r gwaith o ail-lansio'r llwybr, cynhaliwyd rhaglen o welliannau, gan gynnwys gwelliannau llwybrau, uwchraddio seilwaith, marciau newydd ar ffyrdd a nodweddion dehongli newydd, gan helpu i wella'r profiad cyffredinol i farchogion, cerddwyr a beicwyr.
Mae datblygu a gwella'r llwybr yn ymateb i adborth gan gymuned farchogaeth Sir Gaerfyrddin i gael mwy o gyfleoedd marchogaeth oddi ar y ffordd, a darparu manteision ehangach i drigolion ac ymwelwyr ar gyfer hamdden, teithio llesol a dysgu yn yr awyr agored.
Disgwylir i'r gwaith o ail-lansio'r llwybr hefyd gefnogi economi ymwelwyr Sir Gâr drwy annog mwy o bobl i grwydro Dyffryn Cothi a dod ar draws atyniadau lleol, busnesau lletygarwch, darparwyr llety a chymunedau gwledig.
Fel ychwanegiad gwerthfawr at rwydwaith helaeth o lwybrau cerdded, beicio a hamdden awyr agored yn y sir, mae'r llwybr yn gwella enw da Sir Gâr fwy fyth fel cyrchfan ar gyfer cerdded, beicio, gweithgareddau marchogaeth a thwristiaeth egnïol.
Mae'r llwybr yn cysylltu ag ardal sy'n enwog am Fwyngloddiau Aur Dolaucothi ac yn cynnig cyfle i ymwelwyr brofi tirwedd, hanes a bywyd gwyllt unigryw Dyffryn Cothi.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Mae ail-lansio Llwybr Cothi yn darparu gwell mynediad i farchogion, cerddwyr a beicwyr i gefn gwlad. Mae hefyd yn fuddsoddiad sylweddol yn y gwaith o gyflawni Strategaeth Mynediad i Farchogwyr Sir Gaerfyrddin.
Trwy wneud gwelliannau i'r llwybr a seilwaith cefnogi, rydyn ni wedi gwella'r profiad i ddefnyddwyr wrth helpu i amddiffyn a hyrwyddo'r ased hamdden gwerthfawr hwn.
Bydd y gwelliannau a wnaed trwy'r prosiect hwn yn helpu mwy o bobl i fwynhau harddwch naturiol eithriadol a threftadaeth gyfoethog yr ardal, wrth gefnogi ffyrdd egnïol o fyw a thwristiaeth gynaliadwy. Rydyn ni'n falch o fod wedi gweithio gyda'n partneriaid i greu ased gwerthfawr a fydd o fudd i gymunedau lleol ac ymwelwyr am flynyddoedd lawer."
Mae'r prosiect wedi'i gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ymunodd tua 20 o ddisgyblion a staff o Ysgol Talyllychau â gwesteion yn y digwyddiad lansio, gan helpu i ddathlu'r prosiect.
Anogir trigolion ac ymwelwyr i grwydro'r llwybr newydd a mwynhau cefn gwlad, treftadaeth a chyfleoedd awyr agored ysblennydd yr ardal.
