Ysgol Parc Y Tywyn yn ennill Tarian Ysgolion Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin
5 awr yn ôl
Mae Ysgol Parc y Tywyn wedi ennill Tarian Ysgolion Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn ardal Llanelli ar ôl cofnodi'r ganran uchaf o ddisgyblion a gofrestrodd ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf eleni.
I gydnabod llwyddiant yr ysgol, cyflwynwyd y darian yn ddiweddar gan y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, i ddau ddisgybl o Ysgol Parc y Tywyn a gymerodd ran yn y sialens.
Daw llwyddiant yr ysgol mewn blwyddyn pan gymerodd mwy na 1,000 o blant ledled Sir Gaerfyrddin ran yn Sialens Ddarllen yr Haf, gan ddarllen mwy na 8,000 o lyfrau gyda'i gilydd yn ystod gwyliau'r haf.
Wedi'i chyflwyno drwy Lyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin, mae'r fenter genedlaethol flynyddol yn annog plant i barhau i ddarllen dros yr haf ac yn helpu i ysbrydoli cariad gydol oes at lyfrau a dysgu.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Llongyfarchiadau i bawb yn Ysgol Parc y Tywyn ar y cyflawniad gwych hwn. Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn annog plant i ddarganfod y mwynhad o ddarllen ac ar yr un pryd yn eu helpu i gynnal a datblygu eu sgiliau llythrennedd dros wyliau'r ysgol. Mae'n wych gweld cynifer o bobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin yn cymryd rhan, ac rwy'n falch iawn o weld Ysgol Parc y Tywyn yn cael ei chydnabod am ei brwdfrydedd a'i hymrwymiad."
Enillwyr eraill yr ardal oedd Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Talacharn, a hawliodd Darian Ysgolion Caerfyrddin, ac Ysgol Ffairfach, a enillodd Darian Ysgolion Rhydaman.
