Y Cyngor yn parhau â'i ymdrechion i fynd i'r afael â sbwriel a thipio anghyfreithlon
9 awr yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i weithio gyda chymunedau i helpu i gadw ardaloedd lleol yn lân, yn ddiogel ac yn groesawgar drwy ymgyrchoedd glanhau wedi'u targedu gyda chymorth swyddogion gorfodi.
Mae'r fenter yn canolbwyntio ar ganol trefi, lonydd cefn ac ardaloedd eraill lle gall gollwng sbwriel, tipio anghyfreithlon a throseddau amgylcheddol gael effaith negyddol ar gymunedau lleol. Gall swyddogion gorfodi, gyda chymorth patrolau e-feiciau, gyrraedd mwy o ardaloedd yn fwy effeithlon, gan eu gwneud yn fwy amlwg ac yn fwy ymatebol yn y mannau lle mae trigolion, busnesau ac ymwelwyr eisiau gweld gwelliannau.
Mae ymgyrchoedd glanhau wedi'u targedu yn dod â thimau glanhau a gorfodi at ei gilydd i fynd i'r afael â phryderon amgylcheddol, gwella ymddangosiad mannau cyhoeddus a chefnogi'r balchder sydd gan bobl leol yn eu trefi, eu pentrefi a'u cymdogaethau.
Ers i'r fenter ddechrau, mae 120 o lonydd cefn yn ardal Llanelli wedi'u glanhau a'u gwella. Mae'r gwaith wedi cael ei groesawu gan drigolion, ac mae timau gweithredol yn derbyn adborth cadarnhaol gan aelodau'r cyhoedd sydd wedi gweld gwelliannau yn eu cymunedau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Rydym ni wedi ymrwymo i gynnal cymunedau glân a diogel ledled Sir Gaerfyrddin ac mae ein hymgyrchoedd glanhau wedi'u targedu yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni hyn.
Mae'r ymgyrchoedd hyn yn ymwneud â chydweithio â chymunedau, gwrando ar bryderon lleol a chymryd camau ymarferol i helpu i wneud mannau cyhoeddus yn fwy deniadol a chroesawgar.
Er bod y Cyngor yn gwneud gwaith glanhau a chynnal a chadw rheolaidd, mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth gadw Sir Gaerfyrddin yn lân. Rydym ni'n ddiolchgar i drigolion, busnesau a grwpiau cymunedol sydd eisoes yn ymfalchïo yn eu hardaloedd lleol, ac rydym yn annog pawb i gefnogi'r ymdrechion hyn trwy waredu gwastraff yn gyfrifol a rhoi gwybod am broblemau pan fyddan nhw'n codi.
Mae'r Cyngor yn parhau i fuddsoddi adnoddau sylweddol mewn glanhau strydoedd, cynnal a chadw amgylcheddol a gweithgareddau gorfodi. Trwy ymgyrchoedd glanhau wedi'u targedu ac ymgysylltu parhaus â chymunedau, mae'r Cyngor yn helpu i fynd i'r afael â materion amgylcheddol a gwneud amgylcheddau lleol ledled Sir Gaerfyrddin yn fwy croesawgar a phleserus i bawb."
Mae'r prosiect hwn yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Nghymru.
Caiff trigolion eu hannog i roi gwybod am achosion o dipio anghyfreithlon a throseddau amgylcheddol drwy wefan y Cyngor a chwarae eu rhan wrth helpu i gadw Sir Gaerfyrddin yn lân i bawb.






