Y Cyngor yn lansio ymgynghoriad ar ddigartrefedd a gwasanaethau cymorth tai ar gyfer y dyfodol
9 awr yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd trigolion, pobl sydd wedi profi digartrefedd neu anawsterau tai, landlordiaid, sefydliadau partner a grwpiau cymunedol i helpu i lunio dyfodol atal digartrefedd a gwasanaethau cymorth tai ledled y sir.
Mae'r Cyngor wedi lansio ymgynghoriad i lywio'r gwaith o ddatblygu Strategaeth y Rhaglen Digartrefedd a Chymorth Tai ar gyfer 2027 i 2031, cynllun pedair blynedd a fydd yn helpu i lywio gwasanaethau i bobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 14 Hydref 2026.
Nod yr ymgynghoriad yw casglu barn gan drigolion, darparwyr cymorth, sefydliadau cymunedol a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu darlun cliriach o’r anghenion cymorth tai presennol ac yn y dyfodol ledled Sir Gaerfyrddin. Bydd yr adborth yn helpu i nodi heriau, rhwystrau rhag cael mynediad at gymorth a chyfleoedd i wella gwasanaethau yn y blynyddoedd i ddod.
Yn dilyn cael ei chymeradwyo bydd y strategaeth yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru a bydd yn helpu i lywio'r gwaith o gynllunio a datblygu gwaith atal digartrefedd a gwasanaethau cymorth tai ledled Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Schiavone, Aelod Cabinet dros Gartrefi Cyngor Sir Caerfyrddin:
Mae atal digartrefedd a sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt yn flaenoriaeth i Gyngor Sir Caerfyrddin.
Rydyn ni am glywed gan drigolion, pobl sydd â phrofiad byw o ddigartrefedd neu anawsterau o ran tai, landlordiaid, grwpiau cymunedol, sefydliadau cymorth a phartneriaid fel y gallwn ddeall yn well yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu a'r gefnogaeth sydd ei angen nawr ac yn y dyfodol.
Bydd y safbwyntiau a rennir drwy'r ymgynghoriad hwn yn chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddatblygu strategaeth sy'n adlewyrchu anghenion lleol ac yn ein helpu i ddarparu cefnogaeth effeithiol i bobl ledled Sir Gaerfyrddin."
Gall trigolion gymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy lenwi'r arolwg ar-lein: https://carmarthenshire.welcomesyourfeedback.net/afn
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.
