Y Cyngor yn cymeradwyo cau Ysgol Y Fro

7 awr yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo cau Ysgol Y Fro yn ei gyfarfod ddydd Mercher 14 Hydref 2026.

Bydd yr ysgol yn cael ei chau ar 31 Rhagfyr 2026. O 1 Ionawr 2027, byddai disgyblion Ysgol Y Fro wedi symud i Ysgol Y Dderwen, yn amodol ar ddewis y rhieni a threfniadau derbyn y Cyngor. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddisgyblion ar gofrestr Ysgol Y Fro ar hyn o bryd. 

Bydd dalgylch Ysgol Y Fro yn cael ei ailddynodi a'i gynnwys yn nalgylchoedd presennol yr ysgolion canlynol: Ysgol Gynradd Llangynnwr, Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Llanddarog, Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Glanyfferi, Ysgol Gynradd Gwynfryn, Ysgol Gymraeg Gwenllian, Ysgol Gynradd Mynyddygarreg ac Ysgol y Castell.

Nodwyd Ysgol Y Fro yn seiliedig ar feini prawf a bennwyd yn y Rhaglen Moderneiddio Addysg, a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 18 Tachwedd 2024 er mwyn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r ysgol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Nifer y disgyblion yn eithriadol o isel
  • Nifer uchel o leoedd gwag
  • Nifer fawr o ddisgyblion sy'n byw o fewn y dalgylch yn mynychu ysgolion eraill
  • Amcanestyniadau disgyblion yn awgrymu mai bach yw'r tebygolrwydd o nifer y disgyblion yn cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf
  • Rhagweld diffyg yn y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg: 

"Mae'r Cyngor Llawn, â chalon drom, wedi gwneud y penderfyniad i gau Ysgol Y Fro.
Er ein bod ni'n sylweddoli y caiff y penderfyniad hwn effaith ar y gymuned, mae'r heriau sy'n wynebu Ysgol Y Fro yn sylweddol. Ymhlith y rhain mae nifer isel y disgyblion a nifer fawr o leoedd gwag, ac nid yw'n debygol o gwbwl y bydd hynny'n newid oherwydd cyfradd geni sy'n gostwng, a sefyllfa ariannol nad yw'n gynaliadwy.
Bydd y penderfyniad hwn yn galluogi Cyngor Sir Caerfyrddin i roi cyfleoedd addysg o safon i bob plentyn yn Sir Gaerfyrddin."