Y Cyngor yn cymeradwyo cau Ysgol Meidrim

3 awr yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo cau Ysgol Meidrim yn ei gyfarfod ddydd Mercher 14 Hydref 2026.

Bydd yr ysgol yn cael ei chau ar 31 Rhagfyr 2026. O 1 Ionawr 2027 ymlaen, bydd disgyblion presennol Ysgol Meidrim yn symud i Ysgol Hafodwenog neu Ysgol Griffith Jones, yn amodol ar ddewis y rhieni a threfniadau derbyn y Cyngor.

Ar gyfer disgyblion yn y dyfodol o 1 Ionawr 2027 ymlaen, bydd dalgylch Ysgol Gynradd Meidrim yn cael ei ailddynodi a'i gynnwys yn nalgylchoedd presennol Ysgol Hafodwenog, Ysgol Griffith Jones ac Ysgol Bancyfelin.

Nodwyd Ysgol Meidrim yn seiliedig ar feini prawf a bennwyd yn y Rhaglen Moderneiddio Addysg, a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 18 Tachwedd 2024 er mwyn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r ysgol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Nifer y disgyblion yn eithriadol o isel
  • Nifer uchel o leoedd gwag
  • Nifer fawr o ddisgyblion sy'n byw o fewn y dalgylch yn mynychu ysgolion eraill
  • Amcanestyniadau disgyblion yn awgrymu mai bach yw'r tebygolrwydd o nifer y disgyblion yn cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf
  • Rhagweld diffyg yn y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg:

"Er bod y penderfyniad hwn gan y Cyngor Llawn wedi bod yn un anodd dros ben, nid oedd yn bosib anwybyddu'r heriau mae Ysgol Meidrim yn eu hwynebu yn y tymor hir. Mae'r rhain yn cynnwys nifer disgyblion isel iawn, nifer fawr o leoedd gwag, a phwysau ariannol yn sgil hynny, heb unrhyw dystiolaeth y daw twf digonol i newid y sefyllfa honno."