Siopau Sionc Nadolig Sir Gâr: eich cyfle i ddechrau masnachu y Nadolig hwn
10 awr yn ôl
Mae'r Cyngor Sir yn gwahodd busnesau newydd a darpar fusnesau i gymryd rhan mewn cyfres o gyfleoedd masnachu AM DDIM ar gyfer Siopau Sionc Nadolig ar draws Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman ym mis Rhagfyr.
Bydd Siopau Sionc Nadolig yn rhoi siawns i fusnesau newydd a darpar fusnesau roi cynnig ar fasnachu mewn amgylchedd marchnad go iawn yn ystod cyfnod siopa'r Nadolig prysur, gan ennill profiad a chwsmeriaid posibl. Mae'r cyfle hwn wedi'i anelu at fusnesau sy'n ystyried dod yn fasnachwyr rheolaidd yn un o farchnadoedd dan do neu awyr agored Sir Gaerfyrddin, neu'r rhai sy'n awyddus i sefydlu busnes newydd yn un o drefi'r Sir.
Mae'r holl gyfleoedd yn rhad ac am ddim ac ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.
Ble allwch chi fasnachu?
Caerfyrddin – Rhodfa's Santes Catrin (Bydd hyd at 10 caban masnachu pren Nadoligaidd ar gael)
- 9–12 Rhagfyr, 10am – 4pm
- 16–19 Rhagfyr, 10am – 4pm
- 20–23 Rhagfyr (dydd Sul yn ddewisol),10am – 4pm
Llanelli – 8-10 Rhodfa'r Farchnad (Bydd chwe bwrdd masnachu dros dro ar gael)
- 9–12 Rhagfyr, 10am – 4pm
- 16–19 Rhagfyr, 10am – 4pm
- 20–23 Rhagfyr (dydd Sul yn ddewisol),10am – 4pm
Rhydaman – Marchnad Rhydaman (Bydd pedwar stondin masnachu sengl ar gael i fasnachwyr newydd a darpar fasnachwyr)
- Dydd Gwener 4 Rhagfyr, 10am – 4pm
- Dydd Gwener 11 Rhagfyr, 10am – 4pm
- Dydd Gwener 18 Rhagfyr, 10am – 4pm
Bydd angen i fasnachwyr Rhydaman ddarparu eu hoffer eu hunain, gyda stondinau wedi'u dyrannu wrth gyrraedd.
Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Sir Gaerfyrddin dros Farchnadoedd:
Mae'r cyfleoedd Siopau Sionc Nadolig am ddim hyn yn ffordd wych i fusnesau newydda darpar fusnesau roi cynnig ar fasnachu mewn marchnad, arddangos eu cynhyrchion a chysylltu â chwsmeriaid. Rydym yn annog unrhyw un sy'n ystyried dechrau busnes neu ddatblygu syniad presennol i fanteisio ar y cyfle hwn a darganfod beth allai masnachu yn Sir Gaerfyrddin ei gynnig iddynt.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Llun 23 Tachwedd 2026.
I fynegi eich diddordeb, e-bostiwch machnadoedd@sirgar.gov.uk
I ddysgu rhagor am ddod yn Fasnachwr, ewch i'r wefan.
