Safonau Masnach yn atgoffa manwerthwyr o newidiadau sydd ar ddod i gyfreithiau'n ymwneud â thybaco a fepio
4 awr yn ôl
Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin yn atgoffa manwerthwyr o newidiadau pwysig sy'n dod i rym ar 29 Hydref 2026 o dan Ddeddf Tybaco a Fêps 2026, cyn i ddeddfwriaeth cenhedlaeth ddi-fwg y DU gael ei chyflwyno ym mis Ionawr 2027.
O 29 Hydref 2026, yr oedran gwerthu ar gyfer holl gynhyrchion fepio a chynhyrchion nicotin fydd 18 oed neu'n hŷn. Bydd yn drosedd gwerthu'r cynhyrchion hyn i unrhyw un o dan 18 oed, a bydd hefyd yn drosedd i berson 18 oed neu'n hŷn eu prynu neu geisio eu prynu ar ran rhywun dan 18 oed. Mae manwerthwyr yn cael eu cynghori i roi gweithdrefnau gwirio oedran effeithiol ar waith a gwirio prawf adnabod lle mae unrhyw amheuaeth am oedran cwsmer.
Bydd y ddeddfwriaeth newydd hefyd yn gwahardd peiriannau gwerthu rhag dosbarthu cynhyrchion fepio, cynhyrchion nicotin, cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigarét. Gall unrhyw un sy'n rheoli eiddo lle mae peiriannau gwerthu o'r fath ar gael i gwsmeriaid gyflawni trosedd, hyd yn oed pan fo taliad yn digwydd mewn man arall.
Dylai busnesau hefyd fod yn ymwybodol o gyfyngiadau newydd ar waith hyrwyddo. Bydd yn drosedd i roi cynhyrchion fepio, cynhyrchion nicotin, cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigarét am ddim os mai'r diben neu'r effaith yw hyrwyddo'r cynhyrchion hynny. Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn gwahardd gwerthu'r cynhyrchion hyn ar ostyngiadau sylweddol a dosbarthu neu werthu cwponau sy'n cynnig gostyngiadau sylweddol. Mae'r cyfyngiadau hyn yn cynnwys cynhyrchion sy'n hyrwyddo cynhyrchion fepio neu gynhyrchion tybaco trwy frandio, hyd yn oed pan nad yw'r eitem ei hun yn un o'r cynhyrchion sy'n cael ei reoleiddio.
Mae manwerthwyr yn cael eu hannog i ymgyfarwyddo â'r newidiadau a sicrhau eu bod yn cydymffurfio'n llawn â nhw cyn i'r ddeddfwriaeth ddod i rym.
Gall busnesau sy'n ceisio cyngor gysylltu â Safonau Masnach Sir Gaerfyrddin drwy ffonio 01267 234567 neu drwy e-bostio.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar GOV.UK.
