Rhieni Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog rhagor o deuluoedd i ystyried mabwysiadu
13 awr yn ôl
Mae Rhieni Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru sydd wedi creu eu teuluoedd drwy fabwysiadu yn annog eraill i ystyried darparu cartref mabwysiadol sefydlog a diogel i blentyn mewn gofal yng Nghymru.
Yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (19-25 Hydref 2026), mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn gofyn i ragor o bobl ledled Cymru ystyried mabwysiadu wrth gynllunio eu teuluoedd. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn dathlu ail flwyddyn ei ymgyrch Mae Nawr yn Amser Da, ac yn ysbrydoliaeth y mae storïau am yr eiliad dyngedfennol pryd penderfynodd rhieni ddechrau'r broses fabwysiadu.
Ar draws Cymru, mae ymholiadau cychwynnol ynghylch mabwysiadu wedi cynyddu 10% dros y flwyddyn ddiwethaf, sy'n newid cadarnhaol yn dilyn gostwng am sawl blwyddyn. Fodd bynnag, mae'r angen am deuluoedd mabwysiadol hefyd wedi tyfu. Cynyddodd nifer y plant sy'n aros i gael eu mabwysiadu 11%, gyda 310 o blant yn aros ar hyn o bryd.
Un rhiant sy'n gobeithio annog eraill i ystyried mabwysiadu yw Carys o Geredigion, a wnaeth fabwysiadu drwy Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Ychydig cyn priodi ei gŵr, Aled, dywedwyd wrth Carys na fyddai'n gallu cael plant yn naturiol heb driniaeth ffrwythlondeb. Ar ôl ystyried eu dewisiadau, penderfynodd y cwpwl ddilyn trywydd mabwysiadu a dechrau cynyddu eu teulu mewn ffordd wahanol.
Dywedodd Carys, rhiant mabwysiadol gyda Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru:
"Pan ma'r plentyn 'na'n dod adre i dy ddwylo di, mae popeth werth e.
'Sdim byth amser perffeth. Yr amser perffeth yw pan ma' nhw getre."
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:
"Gall mabwysiadu roi i blant y cartrefi sefydlog a diogel sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu, a hefyd helpu pobol i greu'r teulu maen nhw wastad wedi gobeithio amdano fe.
Mae Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu yn gyfle i ddathlu teuluoedd mabwysiadol ym mhob cwr o'n rhanbarth, ac i annog unrhyw un sy'n ystyried mabwysiadu i geisio rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael drwy Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru."
Dywedodd Eifion Burke, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru:
"Mae Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu yn gyfle gwych i rannu a dathlu'r llawenydd sydd wedi dod i ran cynifer o deuluoedd yng Nghymru drwy fabwysiadu. Wrth i fi ddechrau fy nhaith fel Cyfarwyddwr, rwy' am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl deuluoedd sydd wedi agor eu cartrefi, ac annog rhagor i ddod ymlaen.
Er bod heriau unigryw yn perthyn i fabwysiadu, gall hefyd fod yn siwrnai sy'n rhoi boddhad rhyfeddol. Rydyn ni am i bobol wybod nad oes neb sy'n mabwysiadu ar ben ei hun. Mae ystod eang o gymorth ar gael i blant a theuluoedd mabwysiadol ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaethau therapiwtig, rhwydweithiau cyfoedion a chymorth cymunedol, gan helpu teuluoedd i feithrin perthnasoedd cryf, cadarnhaol a pharhaol.
Mabwysiadu yw un o'r ffyrdd mwyaf pwerus y gallwn ni newid dyfodol plentyn. Fy ngweledigaeth i yw bod Cymru yn parhau i arwain y ffordd o ran darparu gwasanaethau mabwysiadu o safon, gan sicrhau bod pob plentyn, teulu mabwysiadol, a theulu geni yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw nid yn unig i oresgyn heriau, ond i ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn."
I gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ewch i wefan Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru.
