Rheoli traffig Atriwm ar Heol y Gwyddau, Caerfyrddin yn cael ei ymestyn tan 21 Rhagfyr 2026

5 awr yn ôl

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar ailddatblygiad nodedig Atriwm yng nghanol tref Caerfyrddin, wrth i hen adeilad Debenhams gael ei drawsnewid yn gyrchfan aml-bwrpas newydd i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.

Er mwyn gallu parhau i wneud cynnydd da, bydd y gwaith o reoli traffig ar Heol y Gwyddau yn cael ei ymestyn tan 21 Rhagfyr 2026 i sicrhau bod modd cwblhau'r prosiect yn barod i'w agor yn gynnar y flwyddyn nesaf. 

Dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, mae Atriwm yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Bydd y prosiect yn dwyn ynghyd wasanaethau cyhoeddus, gofal iechyd, addysg, hamdden a gweithgareddau sy'n addas ar gyfer pob oedran o dan yr un to, gan helpu i ddenu ymwelwyr, adfywio canol y dref a chefnogi'r economi ehangach. Bydd Atriwm yn dod ag amrywiaeth o gyfleusterau meddygol cymunedol at ei gilydd yng nghanol y dref. Y cynnig unigryw hwn, ochr yn ochr â'r ystod o wasanaethau eraill yn Atriwm, yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.