Perchnogion eiddo gwag yn cael eu hannog i ystyried cyfleoedd cymorth a chyllid newydd
6 diwrnod yn ôl
Mae perchnogion eiddo gwag ledled Sir Gaerfyrddin yn cael eu hannog i ystyried yr ystod o gyllid, cyngor a chymorth ymarferol sydd ar gael i helpu i ailddefnyddio cartrefi gwag. Mae Tîm Eiddo Gwag y Cyngor wedi lansio llythyr newyddion newydd sy'n tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i berchnogion sy'n ystyried adnewyddu, rhentu, gwerthu neu ddychwelyd i'w heiddo.
Ymhlith y cymorth sydd ar gael y mae'r Cynllun Benthyciad Troi Tai'n Gartrefi, sydd wedi cynyddu'r uchafswm benthyciad sydd ar gael yn ddiweddar o £25,000 i £35,000 fesul eiddo neu uned. Mae'r cynllun yn cynnig benthyciadau llog o 0% i gefnogi gwaith adnewyddu, gan helpu perchnogion i wireddu potensial eiddo gwag hirdymor a'u hailddefnyddio.
Gall perchnogion eiddo hefyd fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol, sy'n darparu grantiau o hyd at £25,000 i wella cyflwr, diogelwch ac effeithlonrwydd ynni eiddo gwag hirdymor - er mwyn dod â nhw yn ôl i gyflwr byw yn barod i'w meddiannu.
Mae ceisiadau am y cynllun yn parhau i fod ar agor tan 31 Mawrth 2027 (yn amodol ar y cyllid sydd ar gael).
Mae'r Tîm Eiddo Gwag yn awyddus i ddeall yn well yr heriau sy'n wynebu eiddo gwag ac anogir perchnogion eiddo i lenwi holiadur byr a gofyn am ymweliad ymgynghori am ddim i drafod eu hamgylchiadau, bwrw golwg ar opsiynau sydd ar gael iddyn nhw a dod i wybod pa gymorth a allai fod ar gael i helpu i ddod â'u heiddo yn ôl i ddefnydd: https://carmarthenshire.welcomesyourfeedback.net/empty_property
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Schiavone, Aelod Cabinet dros Gartrefi Cyngor Sir Caerfyrddin:
Mae eiddo gwag yn gyfle gwerthfawr i ddarparu cartrefi mawr eu hangen a rhoi bywyd newydd i'n cymunedau. Rydyn ni'n deall y gall defnyddio eiddo gwag unwaith eto fod yn heriol, a dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi perchnogion drwy gyllid, cyngor ymarferol a chymorth wedi'i deilwra. Hoffwn annog unrhyw un sydd ag eiddo wag i edrych ar y cymorth sydd ar gael a chymryd y cam cyntaf tuag at ddefnyddio eu heiddo unwaith eto.
Dylai perchnogion hefyd gadw llygad am Lythyr Newyddion Eiddo Gwag ar gyfer 2027, a fydd yn darparu rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu, cefnogaeth sydd ar gael a chymorth ymarferol.
I gael rhagor o wybodaeth am gymorth eiddo gwag, cyfleoedd ariannu, neu i drafod eiddo gwag, ewch i: Llythyr Newyddion Eiddo Gwag neu cysylltwch â'r Tîm Eiddo Gwag drwy e-bost privatesector@sirgar.gov.uk
