Newidiadau pwysig i gasgliadau bagiau du wrth i'r gwasanaeth ailgylchu newydd ddechrau

11 awr yn ôl

Mae pobl ledled Sir Gaerfyrddin yn cael eu hatgoffa y gallai diwrnodau casglu deunydd ailgylchu a gwastraff newid i gartrefi ar draws y sir o ddydd Llun 2 Tachwedd 2026. Mae'r newidiadau'n cyd-fynd â chyflwyno'r Gwasanaeth Ailgylchu Ar Wahân newydd, a hynny’n bennaf ar draws gorllewin Sir Gaerfyrddin i ddechrau.

Bydd cartrefi yn derbyn llythyr y mis hwn yn cadarnhau unrhyw newidiadau i'w diwrnodau casglu, a chalendr casgliadau newydd. Caiff pobl eu hannog i wirio'r wybodaeth hon yn ofalus cyn i'r newidiadau ddod i rym.

I helpu cartrefi i addasu i'r trefniadau newydd, bydd preswylwyr y mae eu casgliad bagiau du cyntaf o dan yr amserlen newydd ar yr wythnosau sy'n dechrau ar 9 Tachwedd neu 16 Tachwedd 2026, yn gallu rhoi hyd at bedwar bag du mas i'w casglu. Trefniant untro yn unig yw hwn er mwyn helpu pobl i addasu i'r trefniadau casglu newydd.

O'r wythnos sy'n dechrau ar 23 Tachwedd 2026, bydd y terfyn arferol o dri bag du fesul casgliad yn berthnasol i bob cartref yn y sir.

Y cyngor sy'n cael ei roi i breswylwyr yw edrych ar eu calendr casgliadau newydd i weld pryd bydd eu casgliad bagiau du cyntaf o dan yr amserlen newydd.

Bydd nifer fach o gartrefi yn cael bwlch o fwy na thair wythnos rhwng eu casgliad bagiau du terfynol o dan yr amserlen bresennol a'u casgliad cyntaf o dan yr amserlen newydd. Lle mae hyn yn berthnasol, darperir casgliad bagiau du ychwanegol. Bydd y cartrefi y bydd hyn yn effeithio arnynt yn cael llythyr, ac nid oes angen iddynt gysylltu â'r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Wrth i ni gyflwyno ein gwasanaeth Ailgylchu Ar Wahân newydd, rydyn ni am i'r newid fod mor hwylus ag sy'n bosib i bobl y sir.  Felly, ar un achlysur yn unig, bydd rhai cartrefi y mae eu casgliad bagiau du cyntaf ar yr wythnosau sy'n dechrau ar 9 Tachwedd neu 16 Tachwedd 2026 yn gallu rhoi pedwar bag du mas, a byddwn ni'n darparu casgliad ychwanegol i rai cartrefi. Rydyn ni'n annog pawb i wirio'r wybodaeth maen nhw wedi'i chael a gwneud nodyn o'u dyddiadau casglu newydd."

Gall preswylwyr gofrestru i dderbyn negeseuon e-bost neu negeseuon testun am ddim i'w hatgoffa o'u casgliadau ailgylchu a'u casgliadau gwastraff yma.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wirio eich diwrnodau casglu, cliciwch yma.

Mae'r Cyngor yn annog preswylwyr i rannu'r wybodaeth hon gydag aelodau o'r teulu, ffrindiau a chymdogion sydd o bosibl yn dibynnu ar eraill i gael diweddariadau pwysig.