Negeseuon atgoffa am daliadau'r Dreth Gyngor wedi'u hanfon ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin
16 awr yn ôl
Mae neges destun atgoffa wedi'i hanfon ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin at breswylwyr Sir Gaerfyrddin sydd wedi methu rhai o'u taliadau'r dreth gyngor.
Bydd y neges destun, y dylai preswylwyr ei derbyn gan 'Carms CC', yn cynnwys y testun canlynol:
‘Annwyl (enw), mae gennych chi broblem heb ei datrys gyda Chyngor Sir Caerfyrddin. I gael manylion, ewch i (dolen i wefan sirgar.llyw.cymru). Peidiwch ag anwybyddu'r neges hon.’
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.
Er bod y neges hon yn ddilys ac wedi'i hanfon ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin, dylai preswylwyr fod yn ymwybodol bod sgamiau hefyd yn cael eu lledaenu sy'n honni eu bod gan y Cyngor Sir mewn perthynas â chyfrifon treth gyngor sydd mewn credyd neu falansau treth gyngor heb eu talu.
Os nad yw e-bost yn dod o gyfeiriad e-bost, nac yn cynnwys dolenni i dudalen we Sirgar.gov.uk, mae'n debygol iawn ei fod yn sgam. Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni neu lawrlwytho atodiadau o negeseuon e-bost amheus neu anhysbys. Yn hytrach, anfonwch unrhyw negeseuon e-bost rydych chi'n amau eu bod yn sgam at report@phishing.gov.uk Mae hwn yn wasanaeth a gaiff ei redeg gan Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol Llywodraeth y DU.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch eich cyfrif Treth Gyngor, cysylltwch â Chyngor Sir Caerfyrddin drwy anfon e-bost neu ffoniwch 01267 234567.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adnoddau:
“Gall y gwasanaeth hwn atal cyhoeddi hysbysiadau adennill statudol fel nodiadau atgoffa am y Dreth Gyngor. Gall hefyd helpu preswylwyr i osgoi talu costau uchel a'u hatal rhag mynd i ôl-ddyledion pellach.
Byddwn hefyd yn annog preswylwyr i fod yn wyliadwrus o sgamiau ac i gysylltu â thîm Treth Gyngor Cyngor Sir Caerfyrddin os ydynt yn ansicr ynghylch unrhyw neges y maent yn ei derbyn.”
