Merched Cymru yn dychwelyd i Barc y Scarlets ar gyfer gemau ail gyfle Cwpan y Byd
8 awr yn ôl
Yn ystod yr hydref bydd Parc y Scarlets unwaith eto yn croesawu pêl-droed rhyngwladol y merched wrth i Ferched Cymru wynebu Albania yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd Merched FIFA 2027.
Bydd y gêm yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 13 Hydref, gyda'r gic gyntaf am 7.15pm, gan ddod ag achlysur chwaraeon mawr arall i Sir Gaerfyrddin.
Mae Cymru yn dychwelyd i Lanelli ar ôl buddugoliaeth y tîm dros Montenegro ym Mharc y Scarlets ym mis Mawrth yn ystod gemau grŵp ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd. Denodd y gêm gefnogaeth leol gref gan arddangos proffil cynyddol pêl-droed merched yng Nghymru.
Mae cynnal digwyddiadau chwaraeon proffil uchel fel hyn yn parhau i gryfhau enw da Sir Gaerfyrddin fel cyrchfan ar gyfer cystadlaethau mawr, a darparu cyfleoedd i gymunedau lleol weld chwaraeon elit ar garreg eu drws.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth:
Yn dilyn llwyddiant ymweliad Merched Cymru â Pharc y Scarlets yn gynharach eleni, rydyn ni'n falch iawn o groesawu'r tîm yn ôl i Sir Gaerfyrddin ar gyfer gêm bwysig arall.
Mae cynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol o'r safon hon yn dod ag ymwelwyr i'r sir, yn arddangos ein cyfleusterau rhagorol ac yn tynnu sylw at allu Sir Gaerfyrddin i gynnal achlysuron mawr. Mae hefyd yn gyfle gwych i gymunedau lleol weld athletwyr elitaidd yn cystadlu ar y lefel uchaf ac i ddathlu twf parhaus chwaraeon menywod."
Mae tocynnau ar gyfer y gêm ar gael drwy Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
