Maethu Cymru Sir Gâr yn croesawu Ysgol Berfformio Lighthouse fel Partner Maethu Cymru
1 diwrnod yn ôl

Mae Maethu Cymru Sir Gâr yn falch iawn o groesawu Ysgol Berfformio Lighthouse fel y busnes diweddaraf i ymuno â chynllun Partneriaid Maethu Cymru.
Mae Ysgol Berfformio Lighthouse yn grŵp theatr cwbl gynhwysol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 4 ac 18 oed, sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr dan arweiniad Louise ac Ammanys, gofalwyr maeth o Sir Gaerfyrddin.

Ochr yn ochr â'u rôl fel gofalwyr maeth, mae Louise ac Ammanys wedi creu amgylchedd croesawgar lle gall plant a phobl ifanc fagu hyder, datblygu sgiliau newydd a mynegi eu hunain drwy'r celfyddydau perfformio.
Y mis hwn, aethant gam ymhellach wrth gefnogi'r gymuned faethu ehangach drwy gynnal perfformiad arbennig o The Addams Family ar gyfer gofalwyr maeth, plant a phobl ifanc Maethu Cymru Sir Gâr yn unig.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Plant a Theuluoedd:
Mae Louise ac Ammanys yn llysgenhadon gwych ar gyfer maethu yn Sir Gaerfyrddin. Drwy eu rôl fel gofalwyr maeth a'u gwaith gydag Ysgol Berfformio Lighthouse, maent yn parhau i greu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ffynnu, datblygu eu hyder a theimlo eu bod yn cael eu cynnwys. Rydym yn falch iawn o groesawu Ysgol Berfformio Lighthouse fel Partner Maethu Cymru ac yn ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus."
Mae cynllun Partneriaid Maethu Cymru yn cydnabod busnesau sy'n cefnogi maethu ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r rôl hanfodol y mae gofalwyr maeth yn ei chwarae wrth ofalu am blant a phobl ifanc lleol.
Ydych chi'n fusnes lleol sydd â diddordeb mewn dod yn Bartner Maethu Cymru? Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i dudalen Partneriaid Maethu Cymru neu drwy gysylltu â Maethu Cymru Sir Gâr yn uniongyrchol.
I gael manylion am sioeau sydd i ddod, ewch i wefan Ysgol Berfformio Lighthouse.
