Lansio gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd mewn rhannau o Sir Gaerfyrddin ym mis Tachwedd 2026

5 awr yn ôl

Bydd tua thraean o gartrefi yn Sir Gaerfyrddin yn dechrau defnyddio gwasanaeth casgliadau 'Ailgylchu ar Wahân' newydd o fis Tachwedd 2026 ymlaen, wrth i Gyngor Sir Caerfyrddin lansio ei gam cyntaf o newidiadau i gasgliadau ailgylchu o gartrefi.

Bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei gyflwyno i'r rhan fwyaf o gartrefi sydd wedi’u cynnwys yn y cam cyntaf ddydd Llun 2 Tachwedd 2026. Bydd y newidiadau yn effeithio'n bennaf ar gartrefi yn rhan orllewinol y sir.

Er mwyn cefnogi preswylwyr a chriwiau casglu yn ystod y newidiadau, bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno fesul cam yn ystod mis Tachwedd. Felly, bydd nifer fach o gartrefi sydd wedi'u cynnwys yn y cam cyntaf yn dechrau defnyddio'r gwasanaeth yn ddiweddarach yn y mis.

Bydd preswylwyr yn derbyn llythyr ym mis Hydref yn cadarnhau eu trefniadau casglu a'r dyddiad y dylent ddechrau defnyddio'r gwasanaeth newydd. Dylai preswylwyr ddilyn y dyddiad a'r wybodaeth am gasgliadau a nodir yn eu llythyr.

Fel rhan o'r newidiadau, o fis Tachwedd, mae'n bosibl y bydd gan gartrefi ledled y sir ddiwrnodau casglu gwahanol, neu wythnos gasglu wahanol ar gyfer eu bagiau du.  Mae hyn yn berthnasol p'un a ydynt yn newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd eleni, neu'n parhau i dderbyn y gwasanaeth 'Ailgylchu Cymysg' presennol. 

Caiff pob preswylydd ei annog i gofrestru ar gyfer negeseuon e-bost neu negeseuon testun am ddim i'w hatgoffa am gasgliadau ailgylchu a gwastraff.

 

Ar bwy y mae'n effeithio? 

Cafodd pob cartref yn y sir lythyr dros yr haf yn cadarnhau a fyddai'n symud i'r gwasanaeth 'Ailgylchu ar Wahân' newydd yr hydref hwn neu'n parhau i dderbyn y gwasanaeth Ailgylchu Cymysg presennol (bagiau glas) am nawr. Gall preswylwyr hefyd wirio a yw eu cartref yn newid eleni trwy ddefnyddio gwiriwr côd post ar-lein y Cyngor.

Bydd y Cyngor yn ysgrifennu at gartrefi sy'n parhau i dderbyn y gwasanaeth 'Ailgylchu Cymysg' presennol cyn i'w cartrefi newid i'r gwasanaeth 'Ailgylchu ar Wahân' newydd.

 

Pam mae'r gwasanaeth yn newid?

Mae'r gwasanaeth newydd, a elwir yn Ailgylchu ar Wahân, yn rhan o 'Glasbrint Casgliadau' Llywodraeth Cymru. Nod y gwasanaeth yw cynyddu faint o ddeunydd ailgylchu sy'n cael ei gasglu a gwella ei ansawdd, gan helpu Cymru i gyflawni cyfraddau ailgylchu uwch.

Cafodd casgliadau ailgylchu ar wahân eu cyflwyno'n gyntaf yng Nghymru yn gynnar yn y 2000au. Sir Gaerfyrddin fydd y 19eg awdurdod lleol yng Nghymru i wneud y newid hwn.

Gallai cynghorau nad ydynt yn cyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru wynebu dirwyon sylweddol, a allai arwain at oblygiadau i drethdalwyr y cyngor.

 

Beth sy'n newid i'r cartrefi sy'n symud i'r gwasanaeth newydd? 

Bydd cartrefi sy'n newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân yn didoli eu deunydd ailgylchu i sachau a bagiau sy'n gallu cael eu hailddefnyddio. Ni fydd y Cyngor yn casglu deunydd ailgylchu mewn bagiau glas untro o'r cartrefi hyn mwyach.

Bydd y gwasanaeth newydd hefyd yn caniatáu i breswylwyr ailgylchu mwy o ddeunyddiau o'u cartrefi, gan gynnwys bagiau a deunydd lapio plastig, a batris cartref.

Bydd cartrefi sy'n newid i'r gwasanaeth newydd yn derbyn:

  • sach goch, sy'n gallu cael ei hailddefnyddio, ar gyfer metelau, plastigion a chartonau
  • sach oren, sy'n gallu cael ei hailddefnyddio, ar gyfer cardbord
  • sach las, sy'n gallu cael ei hailddefnyddio, ar gyfer papur
  • rholyn o fagiau coch ar gyfer bagiau a deunydd lapio plastig
  • sach wen fach, sy'n gallu cael ei hailddefnyddio, ar gyfer batris cartref

Bydd y Cyngor yn dosbarthu'r sachau ailgylchu newydd, ynghyd â chyflenwad blynyddol o fagiau leinio ar gyfer cadis gwastraff bwyd i gartrefi sy'n newid i'r gwasanaeth newydd yn ystod mis Medi a mis Hydref 2026.

Gall preswylwyr wirio statws eu dosbarthiad ar-lein yma. Bydd y gwasanaeth yn dangos a yw'r sachau wedi'u dosbarthu i'w cartref neu a yw'r gwaith dosbarthu'n parhau i gael ei wneud yn eu hardal. Os yw'r gwaith dosbarthu wedi'i gwblhau mewn ardal ond nad yw cartref wedi derbyn ei sachau a'i fagiau, gall preswylwyr roi gwybod nad ydynt wedi'u derbyn. 

Bydd gwastraff bwyd a deunydd ailgylchu yn parhau i gael eu casglu bob wythnos. Bydd poteli gwydr a jariau hefyd yn cael eu casglu bob wythnos. 

Ni fydd unrhyw newidiadau i gasgliadau gwastraff gardd na chasgliadau gwastraff hylendid a chewynnau.

Bydd y Cyngor yn parhau i gasglu hyd at dri bag du o wastraff na ellir ei ailgylchu bob tair wythnos.

Fel rhan o'r newidiadau, efallai y bydd gan gartrefi ledled y sir ddiwrnodau casglu gwahanol, neu wythnos gasglu wahanol ar gyfer eu bagiau du. Gall hyn fod yn berthnasol p'un a ydynt yn newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd eleni neu'n parhau i dderbyn y gwasanaeth 'Ailgylchu Cymysg' presennol.

Sylwer: Ar gyfer nifer fach o gartrefi, mae'r newid i'r diwrnodau casglu yn golygu bod bwlch o fwy na thair wythnos rhwng eu casgliad bagiau du diwethaf ar yr amserlen bresennol a'u casgliad bagiau du cyntaf ar yr amserlen newydd. Er mwyn sicrhau bod preswylwyr yn gallu parhau i roi allan yr un faint o wastraff na ellir ei ailgylchu yn ystod y newid hwn, byddwn yn darparu un casgliad ychwanegol rhwng y ddau ddyddiad hyn. Bydd y Cyngor yn ysgrifennu at breswylwyr sy'n dod o dan y cynllun ar wahân i roi gwybod iddynt am ddyddiad eu casgliad ychwanegol.

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Ym mis Hydref 2026:

  • Bydd cartrefi sy'n newid i'r gwasanaeth newydd yn cael ail lythyr yn cadarnhau unrhyw newidiadau i'w diwrnodau casglu neu wythnos gasglu, llyfryn sy'n esbonio sut i ddefnyddio'r gwasanaeth newydd, calendr casgliadau newydd a chanllaw cyflym sy'n dangos beth sy'n mynd i ble.
  • Bydd cartrefi sy'n parhau i gael y gwasanaeth Ailgylchu Cymysg (bagiau glas) yn cael ail lythyr yn cadarnhau unrhyw newidiadau i'w diwrnodau casglu neu wythnos gasglu, a chalendr casgliadau newydd.

Rhwng mis Tachwedd 2026 a mis Ionawr 2027, bydd y Cyngor yn dosbarthu'r cyflenwad blynyddol arferol o fagiau glas a bagiau leinio ar gyfer cadis gwastraff bwyd i'r cartrefi nad ydynt yn newid i'r gwasanaeth newydd eleni.

 

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wneud y broses bontio mor ddidrafferth â phosibl ac i ddarparu cymorth i helpu preswylwyr i addasu i'r gwasanaeth newydd.

Gall preswylwyr gofrestru ar gyfer negeseuon e-bost neu negeseuon testun am ddim i'w hatgoffa am gasgliadau ailgylchu a gwastraff, pa bynnag wasanaeth y maen nhw'n ei ddefnyddio.

Mae preswylwyr hefyd yn cael eu hannog i rannu'r wybodaeth gyda pherthnasau, ffrindiau neu gymdogion a allai ddibynnu ar eraill i gael diweddariadau.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y gwiriwr côd post a chwestiynau cyffredin, ar gael yma.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Mae hwn yn newid sylweddol i'r ffordd y mae llawer o'n preswylwyr yn ailgylchu gartref, ac rydyn ni am wneud y broses o symud i'r gwasanaeth newydd mor syml a didrafferth â phosibl. Byddwn ni'n darparu sachau ailgylchu newydd a gwybodaeth i gartrefi cyn i'w casgliadau newydd ddechrau. Mae'n bwysig bod preswylwyr yn cadw llygad allan am eu llythyr ym mis Hydref, gan y bydd hyn yn cadarnhau eu dyddiad cychwyn ac unrhyw newidiadau i'w diwrnod neu wythnos gasglu. Trwy wahanu ein deunyddiau ailgylchu, gallwn wella ansawdd y deunyddiau rydyn ni'n eu casglu, ailgylchu mwy o'n gwastraff a helpu Sir Gaerfyrddin i gyrraedd ei thargedau ailgylchu. Hoffwn i ddiolch i'r preswylwyr i gyd ymlaen llaw am eu cefnogaeth wrth i ni gyflwyno'r gwasanaeth newydd.”