Hwyl hanner tymor ar draws Sir Gâr
4 awr yn ôl
Gall teuluoedd ar draws Sir Gâr fwynhau hanner tymor prysur ym mis Hydref gan fod digwyddiadau a gweithgareddau sy'n addas i deuluoedd yn cael eu cynnal ledled y sir. O anturiaethau brawychus i archwilio yn yr awyr agored, Ni'n Gwybod am Le i greu atgofion arbennig yr hydref hwn.
Mae hwyl Calan Gaeaf ar y ffordd i Farchnad Caerfyrddin! Dewch i fwynhau digwyddiad Calan Gaeaf llawn hwyl a dychryn, adloniant i'r teulu a digon o hud Calan Gaeaf. Ewch i Farchnad Caerfyrddin ar 31 Hydref am 6pm.Gwisgwch eich hoff wisg Calan Gaeaf ac ymunwch yn yr hwyl. Bydd paentio wynebau, reidiau ffair, marchnad awyr agored, a llawer mwy ar gael yno i'r ymwelwyr. Os ydych chi am fwynhau hwyl Calan Gaeaf yn gynnar, mae Rhodfa'r Santes Catrin yn cynnal llwybr pwmpenni ar 27 Hydref. Mae'r slotiau am ddim ac yn dechrau am 11am, 12:30pm a 2pm.
Mae Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin yn dod â hud Calan Gaeaf yn fyw yr hanner tymor hwn fel rhan o thema Gŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni, sef Hwyl Gynaliadwy. Gall teuluoedd fwynhau Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth, straeon llên gwerin, sesiynau Drama Ysbrydoledig a llwybr pwmpenni yn Amgueddfa Sir Gâr, a bydd Amgueddfa Parc Howard yn cynnal gweithgareddau ar thema pwmpenni a llwybr i deuluoedd.
Ym Mharc Gwledig Pen-bre, gall ymwelwyr fwynhau Golff Arswydus yn y Tywyllwch, mentro ar y Llwybr Sombis a dilyn y Llwybr Pwmpenni drwy'r coetir. Mae'r mannau chwarae antur, y llwybrau cerdded a beicio, a'r milltiroedd o goetir a thraeth yn cynnig diwrnod gwych i'r teulu yr hydref hwn.
Chwilio am wyliau hanner tymor brawychus? Mae Caban Pentywyn yn cynnig bargen 3 Noson am Bris 2 drwy gydol mis Hydref, gan ddarparu'r lle perffaith i archwilio atyniadau ac arfordir Sir Gâr.
Mae Llyfrgelloedd Sir Gâr yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau sy'n addas i deuluoedd, gan gynnwys Gweithdai Fizz Pop Spooky Slime (26 Hydref), Profiad Bywyd Bach gyda Wild Science (29 Hydref) ac Amser Stori ar thema Picnic Tedi yn Llyfrgell Llanelli i ddathlu canmlwyddiant derbyn y grant Carnegie (28 Hydref). Bydd crefftau, gemau, LEGO a gweithgareddau creadigol hefyd ar gael trwy gydol y gwyliau.
Mae gan Theatrau Sir Gâr berfformiadau gwych yr hanner tymor hwn. Gall teuluoedd fwynhau Welsh Wrestling a The Little Mermaid Jr gan Disney, ac mae Halloween In Concert, We Will Rock You a The Hauntings yn cynnig adloniant i amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
Gall teuluoedd hefyd fwynhau rhaglen lawn o weithgareddau yn chwe chanolfan hamdden Actif. O wersi nofio dwys a fflotiau hwyl i bartïon Calan Gaeaf, sesiynau NERF a gweithgareddau i'r teulu, mae digon o gyfleoedd i fod yn egnïol yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae gweithgareddau'n cael eu cynnal mewn canolfannau hamdden ledled Sir Gâr, gan gynnwys Canolfan Pentre Awel, felly bydd gan deuluoedd ddigon o gyfleoedd i fanteisio i'r eithaf ar y gwyliau.
Mae digon yn digwydd ar draws Sir Gâr yr hanner tymor hwn ac, os ydych chi'n chwilio am ysbrydoliaeth, Ni'n Gwybod am Le... O lwybrau pwmpenni ac anturiaethau brawychus i'r teulu i lên gwerin Cymru, teithiau ar drenau stêm, gweithdai creadigol a gweithgareddau awyr agored, gall Darganfod Sir Gâr helpu teuluoedd i ddarganfod profiadau newydd a manteisio i'r eithaf ar wyliau'r ysgol. Ewch i Darganfod Sir Gar i gael rhagor o syniadau a gweld y digwyddiadau sydd ar gael.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae gan Sir Gâr gymaint i'w gynnig i deuluoedd yn ystod gwyliau'r ysgol, o weithgareddau creadigol ac adloniant byw i anturiaethau yn yr awyr agored a chyfleoedd i fod yn egnïol. P'un a ydych chi'n crwydro yn ein hamgueddfeydd a'n parciau gwledig, yn mwynhau perfformiad mewn theatr, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn ein canolfannau hamdden neu'n darganfod rhywle newydd, mae digon o gyfleoedd i greu atgofion arbennig gyda'ch gilydd yr hanner tymor hwn. Rwy'n annog teuluoedd i fynd allan, crwydro a mwynhau popeth sydd gan Sir Gâr i'w gynnig yr hydref hwn."
