Gwaith yn dechrau ar ddatblygiad tai newydd yn Llanymddyfri
21 diwrnod yn ôl
Mae gwaith adeiladu wedi dechrau ar ddatblygiad tai Cyngor newydd yn Heol Cilycwm, Llanymddyfri, gan nodi cam pwysig yn y gwaith o gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn yr ardal.
Mae'r datblygiad yn rhan o raglen Cyngor Sir Caerfyrddin i gynyddu'r cyflenwad o dai Cyngor i helpu i fodloni'r anghenion am dai a nodwyd ledled y sir. Ar ôl cwblhau'r datblygiad, bydd y cynllun yn darparu tai Cyngor newydd i'w rhentu ar gyfer unigolion a theuluoedd yn yr ardal, a bydd y rhain yn cael eu dyrannu yn unol â Pholisi Gosodiadau Lleol. Bydd y cynllun yn cyfrannu at ddarparu tai modern, ynni-effeithlon, gan gefnogi datblygiad parhaus cymunedau cynaliadwy.
Wrth i'r gwaith ddechrau, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog trigolion lleol sydd â diddordeb yn y tai newydd hyn i sicrhau eu bod wedi'u cofrestru ar y gofrestr dai, gan fod hyn yn hanfodol i unrhyw un sy'n dymuno gwneud cais am dai fforddiadwy yn y sir.
Dylai'r tai Cyngor newydd fod ar gael o ddiwedd yr Haf / Hydref 2027.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Schiavone, Aelod Cabinet dros Gartrefi Cyngor Sir Caerfyrddin:
Mae'n wych gweld bod y gwaith bellach wedi dechrau ar y datblygiad tai Cyngor newydd hwn yn Llanymddyfri. Bydd y cartrefi hyn y mae angen mawr amdanynt yn helpu i ddiwallu'r galw am dai lleol, yn darparu llety o ansawdd uchel ac ynni-effeithlon, ac yn cefnogi twf cymunedau cynaliadwy yn yr ardal. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael mynediad i'r cartrefi hyn i sicrhau eu bod wedi'u cofrestru ar y gofrestr dai.”
Dywedodd y Cynghorydd Handel Davies, Cynghorydd Sir Llanymddyfri:
Mae'n braf gweld bod y prosiect hwn bellach ar waith ac rwy'n falch iawn bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn adeiladu tai newydd yn Llanymddyfri".
I gael rhagor o wybodaeth am Gofrestr Tai Sir Gaerfyrddin a sut i wneud cais, ewch i: Dod o hyd i gartref i'w rentu - Cyngor Sir Caerfyrddin
