Gwaith i ailddatblygu cartref preswyl Plas y Bryn yn dechrau ar y safle yr hydref hwn

3 awr yn ôl

Delwedd 3D o Gartref Gofal newydd Plas y Bryn. Deiliad y ddelwedd: Lawray Architects

Mae cynlluniau i ailddatblygu cartref preswyl Plas y Bryn yng Nghwmgwili i fod yn gyfleuster gofal 60 gwely o'r radd flaenaf yn mynd rhagddynt, a bydd y gwaith adeiladu'n dechrau yr hydref hwn fel rhan o fuddsoddiad mawr mewn darpariaeth gofal ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

Bydd ailddatblygiad yr hen gartref preswyl 34 ystafell wely yn cael ei ariannu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru drwy Raglen y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fel rhan o Raglen Gyfalaf ehangach Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru. Mae mwy na £13 miliwn wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r cynllun, a bydd y costau sy'n weddill yn cael eu talu drwy Raglen Gyfalaf Cyngor Sir Caerfyrddin.

Fel rhan o'r gwaith ailddatblygu bydd Plas y Bryn yn cael ei drawsnewid i fod y cartref nyrsio a phreswyl cyntaf i'w gofrestru'n ddeuol yng Nghymru, gan ddarparu cyfleuster modern gyda chymorth preswyl a nyrsio hyblyg o ansawdd uchel i bobl hŷn a'r rhai ag anghenion cymhleth.

Wedi'i ddylunio fel cyfleuster Carbon sero net, bydd hefyd yn cefnogi uchelgais y Cyngor i ddod yn Awdurdod Lleol sero net erbyn 2030.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Plant a Theuluoedd: 

“Mae ailddatblygu Plas y Bryn yn garreg filltir arwyddocaol yn ein hymrwymiad i ddarparu cyfleusterau gofal modern o ansawdd uchel i bobl Sir Gaerfyrddin. Bydd y buddsoddiad hwn nid yn unig yn gwella ansawdd bywyd i breswylwyr ond hefyd yn cefnogi integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned.”

Dywedodd Delyth Jewell, y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol:

"Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn dangos yr hyn y mae modd ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd i drawsnewid gofal cymdeithasol trwy greu cyfleusterau modern sy'n diwallu anghenion pobl yn eu cymuned. Mae ailddatblygu Plas y Bryn yn enghraifft o sut rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd i sicrhau bod gwasanaethau gofal yn addas ar gyfer y dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynnydd ar y prosiect pwysig hwn.”

Yn dilyn proses gaffael gystadleuol, cafodd Wynne Construction ei benodi fel y prif gontractwr ar gyfer y prosiect nodedig.

Dywedodd Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction: 

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin, gan nodi pennod newydd gyffrous i Wynne Construction ac rydym yn gobeithio mai dyma ddechrau ar bartneriaeth hir a llwyddiannus.”