Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Actif
4 awr yn ôl
Mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau nodedig Chwaraeon Actif Sir Gâr 2026, sy'n cael eu cynnal am y 28ain tro. Mae'r gwobrau'n dathlu'r gorau o chwaraeon yn y sir, gan gydnabod yr athletwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, clybiau a thimau y mae eu hymroddiad a'u cyflawniadau yn gwneud cyfraniad sylweddol at fywyd chwaraeon yn Sir Gâr.
Mae Gavin Griffiths Group wedi'i gadarnhau fel prif noddwr y seremoni wobrwyo flynyddol.
Wedi'u trefnu gan Dîm Cymunedau Actif Cyngor Sir Caerfyrddin, mae Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gâr yn tynnu sylw at yr arwyr chwaraeon lleol a gwaith amhrisiadwy'r rhai sy'n gwneud chwaraeon yn bosibl ar bob lefel.
Mae'r 12 categori ar gyfer y gwobrau eleni yn cynnwys:
- Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn
- Chwaraewr a Chwaraewraig y Flwyddyn
- Chwaraewr Anabl y Flwyddyn
- Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol a Hyfforddwr Chwaraeon o Safon Uchel y Flwyddyn
- Gwirfoddolwr a Pherson Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn
- Tîm Chwaraeon, Tîm Ifanc a Chlwb Chwaraeon y Flwyddyn
- Gwasanaeth Rhagorol i Chwaraeon
Mae unrhyw un a gafodd ei eni yn Sir Gâr, sy'n byw yn y sir, neu sy'n cynrychioli clwb, ysgol neu sefydliad yn Sir Gâr yn gymwys i gael ei enwebu.
Mae enwebiadau bellach ar agor a bydd yn cau ar 25 Hydref 2026. Gall athletwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr gael eu henwebu am sawl gwobr, ond mae angen ffurflen enwebu ar wahân ar gyfer pob categori.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli, ar 18 Chwefror 2027.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gâr yn gyfle gwych i gydnabod cyflawniadau arbennig unigolion, timau a sefydliadau sy'n gwneud cyfraniad mor bwysig at chwaraeon ledled y sir. Boed hynny drwy gystadlu ar y lefel uchaf, hyfforddi’r genhedlaeth nesaf neu wirfoddoli y tu ôl i’r llenni, mae’r gwobrau hyn yn cydnabod yr ymroddiad a’r ymrwymiad sy’n helpu i wneud chwaraeon yn hygyrch ac yn bleserus i bobl o bob oedran.
Hoffwn annog pawb i enwebu'r rheini sydd wedi mynd yr ail filltir dros y flwyddyn ddiwethaf fel y gallwn roi'r gydnabyddiaeth y maen nhw'n ei haeddu."
Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn noddi categori gysylltu â ActifCommunities@sirgar.gov.uk.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gyflwyno enwebiad, ewch i wefan Chwaraeon a Hamdden Actif.
