Cyfle i gael dweud eich dweud am gynigion addysg Gymraeg mewn pedair ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin
3 awr yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dechrau cyfnod ymgynghori i ddiwygio'r ddarpariaeth Gymraeg ar draws pedair ysgol gynradd yn y sir, gan eu newid o ysgolion dwy iaith i ysgolion Cymraeg.
Os cânt eu cymeradwyo, byddai'r newidiadau yn caniatáu i blant sy'n mynychu Ysgol Bro Banw, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llandybïe ac Ysgol Llangynnwr gael mynediad at addysg Gymraeg yn bennaf, yn hytrach na chymysgedd o addysg Gymraeg a Saesneg.
Daw'r cyfnod ymgynghori i ben ar 20 Hydref 2026.
Mae gwahoddiad i rieni, gofalwyr, staff, Llywodraethwyr, aelodau o gymuned ehangach yr ysgol, a rhanddeiliaid eraill anfon eu sylwadau fel rhan o'r broses ymgynghori ar-lein, drwy e-bost neu drwy'r post at:
Mr Owain Lloyd
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies:
"Os cytunir ar y cynnig hwn, bydd yn sicrhau y bydd gan blant sy'n mynychu ysgolion dwy iaith Ysgol Bro Banw, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llandybïe ac Ysgol Llangynnwr fwy o fynediad at addysg Gymraeg.
Mae dysgu Cymraeg o oedran ifanc yn rhoi'r sylfaen orau bosib i blant ddod yn siaradwyr dwyieithog hyderus ac yn creu cyfleoedd newydd iddyn nhw yn yr ystafell ddosbarth a'r tu hwnt iddi."
Mae hyn yn rhan o Bolisi Cymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n amlinellu ei weledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin ddwyieithog.
Ar ôl y cyfnod ymgynghori bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet i gael penderfyniad yn ei gylch.
