Creadigaethau'r Hwb Sgiliau i ysbrydoli carfan Cymru cyn gêm ryngwladol
8 awr yn ôl
Mae artist ifanc talentog o Sir Gaerfyrddin wedi mwynhau profiad “unwaith mewn oes” ar ôl cael gwahoddiad i gyflwyno cyfres o anrhegion wedi'u gwneud â llaw i Dîm Cenedlaethol Merched Cymru i ddathlu eu cyflawniadau a'u hunaniaeth Gymreig.
Creodd Nia, sy'n mynychu'r Hwb Sgiliau yn Cross Hands, gasgliad o Ddoliau Cymreig arbennig yn gwisgo het fwced pêl-droed Cymru sydd bellach yn eiconig. Cafodd pob darn ei ddylunio a'i baentio'n unigol i gynrychioli aelod o garfan a thîm hyfforddi Merched Cymru.
Mae Nia, sy'n gefnogwr brwd o Dîm Merched Arsenal a Thîm Cenedlaethol Merched Cymru, wedi teithio ledled y wlad i gefnogi Cymru a chafodd ei hysbrydoli ar ôl i'r tîm gyrraedd twrnamaint rhyngwladol mawr am y tro cyntaf.
Dechreuodd y syniad ar gyfer y creadigaethau unigryw pan awgrymodd Nia gyfuno'r Ddoli Gymreig draddodiadol â'r hetiau bwced nodedig sydd wedi dod yn symbol o gefnogi pêl-droed Cymru.
Gan weithio ochr yn ochr â Sarah, Swyddog Datblygu'r Hwb Sgiliau, trawsnewidiodd Nia ei syniad yn ddarn ystyrlon o grochenwaith. Cafodd pob eitem ei gwneud â llaw a'i phaentio yng ngweithdy'r Hwb Sgiliau yn Cross Hands, sef gwasanaeth arbenigol sy'n cefnogi unigolion ag anableddau a chyflyrau iechyd meddwl.
Cafodd y prosiect fwy o sylw pan ymwelodd Ffion Morgan â'r Hwb Sgiliau, lle cyflwynodd Nia ddoli Gymreig wedi'i phersonoli iddi. Yn dilyn llwyddiant yr ymweliad hwnnw, aeth Nia ati i greu ffigurau wedi'u personoli ar gyfer pob aelod o garfan a staff hyfforddi Cymru.
Yn gynharach yr wythnos hon, cyflwynodd Nia y casgliad i'r chwaraewyr a'r staff.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd Integredig a Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant ac Oedolion:
"Rydyn ni'n hynod falch o Nia a'r hyn mae wedi'i gyflawni. Mae ei chreadigrwydd a'i hangerdd am bêl-droed wedi creu rhywbeth arbennig iawn sy'n dathlu treftadaeth Cymru a chefnogaeth i'n tîm cenedlaethol. Mae stori Nia yn tynnu sylw at y cyfleoedd gwych mae'r Hwb Sgiliau yn eu darparu, ac rydyn ni'n dymuno'r gorau i Gymru yn y gêm heno."
Dywedodd cynrychiolydd o Dîm Cenedlaethol Merched Cymru:
“Hoffai pawb sy'n ymwneud â Thîm Cenedlaethol Merched Cymru ddiolch yn fawr iawn i Nia am ymweld â'n sesiwn hyfforddi gyda'i mam a'i chwaer heddiw, ac am drefnu anrhegion mor ystyriol i Rhian a'r chwaraewyr. Gwnaeth gwaith caled Nia i greu'r anrhegion argraff fawr ar y tîm ac roedd pawb yn gwerthfawrogi'r oriau o waith i'w creu yn yr Hwb Sgiliau yn Cross Hands. Rydyn ni hefyd yn gwerthfawrogi cefnogaeth Nia i'r tîm dros y blynyddoedd ac yn gobeithio ei bod hi wedi cael profiad gwych heddiw bydd hi'n ei gofio am flynyddoedd i ddod”.
Bydd y gêm yn cael ei chynnal heno (13 Hydref), gyda'r gic gyntaf am 7.15pm ym Mharc y Scarlets, gan ddod ag achlysur chwaraeon mawr arall i Sir Gaerfyrddin.
