Canolfan Pentre Awel yn dathlu ei phen-blwydd cyntaf ar ôl croesawu miloedd drwy ei drysau
3 awr yn ôl
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae'r cyfleuster nodedig wedi dod yn gyrchfan ffyniannus ar gyfer iechyd, llesiant, busnes, dysgu a gweithgarwch cymunedol, gan gyflawni ei weledigaeth i wella bywydau, creu cyfleoedd a chefnogi twf economaidd ledled Sir Gaerfyrddin.
Canolfan Pentre Awel yw cam cyntaf datblygiad ehangach Pentre Awel sy'n cael ei arwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd a Choleg Sir Gâr ac mae'n un o'r prosiectau mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru.
Yn ystod ei blwyddyn gyntaf, mae Canolfan Pentre Awel wedi gweld nifer eithriadol o bobl yn ymgysylltu a chymryd rhan. Mae dosbarthiadau ymarfer corff ar gyfer grwpiau sy'n cael eu cynnal gan dîm Chwaraeon a Hamdden Actif y Cyngor Sir wedi denu 69,889 o bobl ac mae'r sesiynau hydrotherapi cyhoeddus poblogaidd wedi croesawu 1,388 o ddefnyddwyr. Mae'r cyfleusterau cyfarfod a chynadledda hefyd wedi bod yn boblogaidd, gan groesawu 1,314 o bobl drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau busnes, cymunedol a phartneriaeth yn un o ystafelloedd gweithgareddau Canolfan.
Mae'r gwasanaethau iechyd a llesiant wedi parhau i ehangu drwy gydol y flwyddyn. Ers mis Mehefin 2026, mae'r gwasanaeth fflebotomi yn Canolfan Pentre Awel wedi gweld dros 29,000 o gleifion, sy'n dangos y galw cynyddol am wasanaethau gofal iechyd cymunedol hawdd eu cyrraedd.
Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS), sef rhaglen sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn helpu pobl â chyflyrau iechyd i ddod yn fwy egnïol yn gorfforol drwy ymarfer corff strwythuredig a chymorth arbenigol, hefyd wedi gweld effaith sylweddol yn Canolfan. Mae'r cynllun wedi cael 535 o atgyfeiriadau yn Canolfan Pentre Awel yn unig yn ystod ei flwyddyn gyntaf. Mae'r tîm wedi cynnal 291 o sesiynau ymarfer corff ar gyfer grwpiau a 156 o sesiynau dan oruchwyliaeth yn y gampfa, gan helpu pobl i wella eu llesiant corfforol a meddyliol drwy raglenni cymorth a gweithgareddau strwythuredig.
Mae'r cyfleuster hefyd wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau a mentrau mawr drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys ei raglen boblogaidd Mercher Meddwl a Chorff ac ymweliadau gan randdeiliaid cenedlaethol a rhanbarthol, ac roedd yn lleoliad cymunedol pwysig yn ystod cyfnod yr etholiad. Ym mis Gorffennaf daeth dros 2,000 o bobl i'r Ŵyl Bwyd a Diod yr Haf gyntaf yn Canolfan dros ddau ddiwrnod, a oedd yn gyfle i gwsmeriaid brofi popeth sydd gan Canolfan i'w gynnig y tu mewn a'r tu allan.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf mae Canolfan Pentre Awel hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol, gan ennill sawl gwobr diwydiant a sector sy'n dathlu rhagoriaeth mewn adfywio, llesiant, iechyd a gweithio mewn partneriaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
"Flwyddyn ar ôl agor ein drysau, mae Canolfan Pentre Awel eisoes wedi cael effaith enfawr ar ein cymunedau. Mae llwyddiant y 12 mis diwethaf yn dangos cryfder gweithio mewn partneriaeth a'r uchelgais y tu ôl i'r prosiect trawsnewidiol hwn. Rydyn ni'n hynod falch o'r hyn sydd wedi'i gyflawni ac yn edrych ymlaen at y cyfleoedd sydd o'n blaenau wrth i Pentre Awel barhau i dyfu."
Ychwanegodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
"Mae Canolfan Pentre Awel wedi'i sefydlu ei hun yn gyflym fel canolfan bwysig ar gyfer darparu gofal iechyd cymunedol a llesiant yn Llanelli a'r ardaloedd cyfagos. Drwy weithio mewn partneriaeth, rydyn ni wedi gallu dod â gwasanaethau yn agosach at y bobl sydd eu hangen, gan ddarparu gofal mewn amgylchedd modern, hygyrch a chroesawgar.
Efallai fod effaith y ganolfan yn cael ei dangos orau ym mhrofiadau'r rhai sy'n ei defnyddio".
Dywedodd un o'r bobl sy’n cymryd rhan yng nghynllun NERS:
"Roeddwn i'n nerfus ac yn bryderus iawn cyn dechrau fy nhaith NERS, er fy mod i wir eisiau colli pwysau a theimlo'n fwy iach. Ar ôl fy asesiad cychwynnol roeddwn i'n teimlo'n llawer mwy gobeithiol. Mae'r dosbarthiadau yn llawn hwyl, mae pawb yn groesawgar ac rydw i'n bendant wedi teimlo'r manteision iechyd. Erbyn hyn mae gen i fwy o egni ac rwy'n edrych ymlaen at gymryd rhan bob wythnos."
Ychwanegodd defnyddiwr arall:
"O'r sesiwn gyntaf, fe ges i gymorth gwych. Mae'r tîm wedi bod yn barod i helpu a thawelu fy meddwl ac yn broffesiynol drwy'r amser. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sy'n darparu'r gwasanaeth."
Wrth iddi ddechrau ei hail flwyddyn, mae'r partneriaid yn parhau i ymrwymo i adeiladu ar y llwyddiant hwn, gan greu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i drigolion, busnesau a chymunedau ffynnu yn Canolfan Pentre Awel.
