Bron i 450 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn mentrau diogelwch ffyrdd ledled Sir Gaerfyrddin
3 awr yn ôl
Mae bron i 450 o bobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau diogelwch ar y ffyrdd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd fel rhan o ymdrechion i leihau marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ffyrdd y sir.
Rhwng 2022 a 2024, cafodd 102 o bobl rhwng 17 a 24 oed eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Sir Gaerfyrddin, gan gyfrif am oddeutu chwarter yr holl bobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol yn y sir yn ystod y cyfnod hwnnw.
Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r broblem, mae Tîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno rhaglen o weithgareddau gyda'r nod o wella ymwybyddiaeth o risgiau ar y ffyrdd ac annog ymddygiad gyrru mwy diogel ymhlith pobl ifanc.
Rhan allweddol o'r ymgyrch oedd Mega Drive 2026, digwyddiad aml-asiantaeth a gynlluniwyd i helpu pobl ifanc i ddeall cyfrifoldebau gyrru cyn mynd y tu ôl i'r llyw yn annibynnol.
Mynychodd cyfanswm o 245 o fyfyrwyr Blwyddyn 12 o Ysgolion Uwchradd Dyffryn Aman, Bro Myrddin ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth y digwyddiad dros dridiau ar Faes Sioe'r Siroedd Unedig, gyda phedwerydd diwrnod yn cael ei gynnal i fyfyrwyr o Gampws Gelli Aur Coleg Sir Gâr.
Cymerodd y myfyrwyr ran mewn sesiynau rhyngweithiol a oedd yn ymwneud â goryrru, tynnu sylw, yfed a gyrru a chyffuriau a gyrru, defnyddio gwregysau diogelwch, diogelwch cerbydau a chyfrifoldeb gyrwyr. Rhoddwyd cyfle i gyfranogwyr hefyd gael profiad o yrru gyda hyfforddwr gyrru cymeradwy mewn amgylchedd diogel, rheoledig.
Daeth y digwyddiad â phartneriaid ynghyd gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Ambiwlans Sant Ioan Cymru, GanBwyll, Cyngor Gwledig Llanelli, Start Young Driver Experience, hyfforddwyr gyrru cymeradwy a Frenni Transport.
Mynychodd y Tîm Diogelwch Ffyrdd hefyd y digwyddiad Cruise Culture a Gŵyl Chwaraeon Modur a Cheir Cyflym Cymru cyn Mega Drive, gan ymgysylltu â thua 50 o yrwyr ifanc. Defnyddiwyd efelychydd gyrru yn y ddau ddigwyddiad i ddangos peryglon a chanlyniadau gyrru o dan ddylanwad alcohol a defnyddio ffôn symudol wrth yrru.
Yn Ffair Wythnos y Glas yng Ngholeg Sir Gâr, ymgysylltodd y tîm â bron i 150 o fyfyrwyr drwy heriau rhyngweithiol yn canolbwyntio ar dynnu sylw gyrwyr, peryglon ffyrdd gwledig a risgiau cyffredin eraill.
Anogir rhieni a gwarcheidwaid y rhai sy'n dysgu gyrru a gyrwyr newydd i fynychu'r Cwrs Rhieni Gyrwyr Ifanc nesaf ar 26 Hydref 2026. Mae'r cwrs yn darparu cyngor ymarferol ar gefnogi gyrwyr ifanc a deall yr heriau y maent yn eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny o ddechrau gyrru.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
"Mae'r ffaith bod 102 o bobl ifanc 17-24 oed wedi cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Sir Gaerfyrddin mewn tair blynedd yn unig yn dangos pam mae’r gwaith hwn mor bwysig.
Trwy gyrraedd pobl ifanc cyn iddynt ddechrau gyrru'n annibynnol, gallwn eu helpu i adeiladu'r wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniadau cyfrifol ar y ffordd.
Hoffwn ddiolch i'n holl bartneriaid am eu cefnogaeth barhaus wrth gyflawni'r mentrau hyn."
