Cymorth ar gael i helpu pobl Sir Gâr i gadw'n gynnes y gaeaf hwn
240 diwrnod yn ôl
Gyda chymorth Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae Cyngor ar Bopeth Sir Gâr yn cynnig cymorth cyfrinachol am ddim drwy ei Ymgynghorwyr Ynni. Mae'r gwasanaeth ar gael i unrhyw un sy'n profi tlodi tanwydd (neu mae perygl y bydd hynny'n digwydd iddynt), sy'n byw mewn cartrefi oer neu sy'n agored i salwch.
Gall pobl gael cyngor pwrpasol am reoli defnydd ynni, gwneud cais am grantiau, adolygu biliau ynni, a gwella effeithlonrwydd cartref. Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu cymorth cyllidebu a mwyhau incwm, ynghyd â mesurau arbed ynni ymarferol lle bo hynny'n briodol.
Mae modd cael cyngor am ynni drwy wneud apwyntiad yn un o'r lleoliadau canlynol yn Sir Gâr:
- Hwb Caerfyrddin: Ar ddydd Llun, 9:00am - 4:00pm
- Hwb Rhydaman: Ar ddydd Mawrth, 9:00am - 4:00pm
- Hwb Llanelli: Ar ddydd Mercher, 9:00am - 4:00pm
I drefnu apwyntiad neu i gael cyngor am ynni, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth Sir Gâr neu ffoniwch 01267 234488.
Gall atgyfeiriadau i'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth gael eu gwneud hefyd yn uniongyrchol drwy unrhyw un o'r canolfannau Hwb.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Dai:
Rydyn ni'n gwybod bod llawer o aelwydydd ledled Sir Gâr yn dal i deimlo gwasgfa costau ynni cynyddol, yn enwedig wrth i'r misoedd oerach agosáu.
Mae'r gwasanaeth yma'n sicrhau bod trigolion yn gallu cael cyngor a chymorth ymarferol i'w helpu i gadw'n gynnes, rheoli eu biliau, a chael unrhyw gymorth ariannol sydd ar gael.”
Mae cyngor am effeithlonrwydd ynni ar gael wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu drwy wasanaeth galw heibio digidol. I wneud apwyntiad ffoniwch 01267 231742 691 neu e-bostiwch energy@carmarthenshire-ca.org.uk. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/hwb/
I gael cyngor ariannol pellach, mynediad at wasanaethau'r Cyngor, a chymorth cyflogaeth, ewch i www.sirgar.llyw.cymru/gwasanaethau-cyngor/hwb/.
I ddysgu rhagor am y prosiectau cymunedol niferus sy'n cael eu cefnogi ledled Sir Gaerfyrddin drwy'r Gronfa Cymunedau Cynaliadwy, ewch i'n tudalen ar gyfer Prosiectau'r Gronfa Cymunedau Cynaliadwy ynCronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Prosiectau Cymunedau Cynaliadwy - Cyngor Sir Caerfyrddin.
