Disgyblion yn arwain y ffordd yn y drydedd Gynhadledd Cynaliadwyedd a Dysgu yn yr Awyr Agored flynyddol yn Sir Gaerfyrddin
220 diwrnod yn ôl
Cymerodd disgyblion o bob rhan o Sir Gaerfyrddin ran flaenllaw ar y llwyfan ddydd Gwener, 19 Medi, wrth iddyn nhw groesawu dros 20 o addysgwyr i'r drydedd Gynhadledd Cynaliadwyedd a Dysgu yn yr Awyr Agored flynyddol i Ysgolion, a gynhaliwyd yn Neuadd y Gwendraeth.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Grŵp Gweithredu dros yr Hinsawdd Sir Gâr, menter dan arweiniad ieuenctid sy'n grymuso pobl ifanc i arwain ar gynaliadwyedd. Daeth addysgwyr o bob rhan o'r sir ynghyd gan gynnwys athrawon, penaethiaid, staff cymorth a darlithwyr ar gyfer diwrnod yn llawn ysbrydoliaeth a chydweithio.
Trwy gydol y dydd, edrychodd y rheiny oedd yn bresennol ar ystod eang o bynciau gan gynnwys llythrennedd bwyd a chynllunio bwydlenni cynaliadwy, datblygu mannau tyfu cynhyrchiol mewn ysgolion, monitro ansawdd aer, ac ymgorffori effeithlonrwydd ynni yn y cwricwlwm. Roedd y gynhadledd yn darparu llwyfan ar gyfer rhannu arferion gorau a straeon llwyddiant gan ysgolion a chanolfannau dysgu ledled y sir, gyda disgyblion yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau a chyflwyniadau.
Parhaodd y gynhadledd eleni i adeiladu ar fomentwm digwyddiadau blaenorol, gan gryfhau rhwydweithiau rhwng ysgolion a sefydliadau sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â heriau o ran yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Pwysleisiodd y digwyddiad bwysigrwydd gweithredu cymunedol a grymuso disgyblion ac addysgwyr i ysgogi newid ystyrlon yn eu hysgolion a'u cymunedau.
Wedi'i ffurfio ym mis Tachwedd 2021, esblygodd Grŵp Gweithredu dros yr Hinsawdd Sir Gâr o Raglen Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang Walk the Global Walk ac mae bellach yn cynrychioli mudiad pwerus a arweinir gan ieuenctid dros gynaliadwyedd. Mae'r grŵp yn cyfarfod bob chwarter i weithredu nodau eu Maniffesto Gweithredu dros yr Hinsawdd ac yn cydweithio ag awdurdodau lleol, busnesau a rhanddeiliaid allweddol eraill i hyrwyddo arferion cynaliadwy ledled y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Mae'r gynhadledd hon yn enghraifft arbennig o sut mae ein pobl ifanc yn camu i fyny fel arweinwyr ac ysgogwyr newid. Trwy fenter Gweithredu ar Newid Hinsawdd Sir Gâr, rydym yn cefnogi ysgolion a chymunedau ledled Sir Gâr i gymryd camau mentrus i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a diogelu ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Mae'r Gynhadledd Cynaliadwyedd a Dysgu yn yr Awyr Agored yn rhan o fenter ehangach Gweithredu ar Newid Hinsawdd Sir Gâr, sy'n ceisio ennyn diddordeb pawb i greu Sir Gaerfyrddin fwy cynaliadwy.
