Lansio hwb chwaraeon cadair olwyn cynhwysol newydd yng Nghanolfan Hamdden San Clêr

6 diwrnod yn ôl

Mae hwb chwaraeon cadair olwyn newydd sbon wedi lansio yng Nghanolfan Hamdden San Clêr fel rhan o Raglen Chwaraeon Ffocws Actif, gan gynnig sesiynau cynhwysol, hwyliog a diddorol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhoi cynnig ar chwaraeon cadair olwyn - p'un a ydynt yn defnyddio cadair olwyn ym mywyd dyddiol ai peidio.

Wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â Phêl-fasged Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, a Sefydliad Cymunedol y Scarlets, mae'r hwb yn rhoi cyfle i gyfranogwyr roi cynnig ar bêl-fasged cadair olwyn, tenis a rygbi ar gylchdro tair wythnos. Mae'r sesiynau'n digwydd bob dydd Mercher am 5pm, gyda'r holl offer, gan gynnwys cadeiriau olwyn chwaraeon, wedi'u darparu.

Er mai'r prif nod yw darparu cyfleoedd i ddefnyddwyr cadair olwyn, mae croeso i gyfranogwyr nad ydynt yn gorfforol abl gymryd rhan gan sicrhau bod hwyl gyda theulu neu ffrindiau yn ganolog i lwyddiant y sesiynau.

Mae'r sesiynau ar agor i bob gallu ac wedi'u hanelu at hyrwyddo cynhwysiant, chwalu rhwystrau, ac annog gweithgaredd corfforol mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Rydyn ni'n falch o gefnogi'r fenter newydd gyffrous hon sy'n hyrwyddo cynhwysiant a chyfranogiad cymunedol. Mae hwb Sanclêr yn dangos beth sy'n bosibl pan fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd i greu cyfleoedd sy'n croesawu pawb, waeth beth fo'u gallu. Dyw hi ddim yn ymwneud â chwaraeon yn unig - mae'n ymwneud â meithrin hyder, cyfeillgarwch, a Sir Gaerfyrddin gryfach, fwy cynhwysol."

Dywedodd Hywel Thomas, Arweinydd Chwaraeon Ffocws Pêl-fasged Actif:

“Mae’r ganolfan newydd hon yn gam gwych ymlaen ar gyfer chwaraeon cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin. Rydym am roi cyfle i bawb,waeth beth fo’u gallu neu eu profiad, roi cynnig ar chwaraeon cadair olwyn, cael hwyl, a meithrin hyder. Diolch i’n partneriaid, rydym yn gallu darparu profiad o ansawdd uchel sy’n hygyrch i bawb.”

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhoi cynnig ar chwaraeon cadair olwyn gofrestru drwy ap Actif, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Cymunedau Actif yn actifcommunities@carmarthenshire.gov.uk.