Dysgwch sut gall Llwybr Dyffryn Tywi roi hwb i'ch busnes
17 diwrnod yn ôl

Mae Tîm Twristiaeth Cyngor Sir Gâr yn cynnal ymweliad ymgyfarwyddo a sioe deithiol AM DDIM i fusnesau twristiaeth a lletygarwch am 10am ddydd Gwener, 11 Gorffennaf yng Nghlwb Rygbi Nantgaredig i helpu busnesau newydd a busnesau presennol i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a gynigir gan Lwybr Dyffryn Tywi.
Mae’n ddigwyddiad hanfodol i fusnesau twristiaeth lleol - o ddarparwyr llety a chaffis i weithredwyr gweithgareddau ac atyniadau. Dewch i grwydro'r llwybr newydd ar daith feicio dywysedig gan Actif Sir Gâr (darperir beiciau hybrid ac e-feiciau am ddim) a dewch i ddysgu mwy am ddatblygiad y llwybr a'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol. Gallwch fod ymhlith y cyntaf i ddefnyddio’r Pecyn Cymorth Beicio newydd sbon ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch. Manteisiwch ar gyngor 1-i-1 gan swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin ar gymorth i fusnesau, cydweithio, hyrwyddo a chyllid.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin:
“Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn parhau i dyfu i fod yn llwybr o'r radd flaenaf sy'n dod â manteision gwirioneddol i'n cymunedau a'n heconomi leol. Mae'r rhan newydd hon yn gam gwych ymlaen, gan gysylltu treftadaeth, tirwedd a thwristiaeth mewn ffordd gynaliadwy. Rydym yn annog busnesau lleol i ddod draw i weld sut y gallant fod yn rhan o'i lwyddiant.”
Peidiwch â cholli'r cyfle unigryw hwn i fod yn rhan o un o brosiectau twristiaeth mwyaf cyffrous y sir. Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael – archebwch nawr! Anfonwch e-bost: twristiaeth@sirgar.gov.uk