Dathlu Wythnos Natur Cymru 2025
4 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi Wythnos Natur Cymru 2025 rhwng 5 a 13 Gorffennaf, ac yn annog trigolion i gymryd rhan yn yr wythnos genedlaethol hon sy'n dathlu bywyd gwyllt a mannau naturiol Cymru.
Mae thema eleni, 'Bwriwch Olwg Fanylach', yn annog cymunedau i gysylltu â'u hamgylchedd lleol, dysgu am rywogaethau brodorol, a chymryd camau syml i helpu natur i ffynnu.
Drwy gydol yr wythnos, bydd yr Awdurdod Lleol, mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Hamdden Awyr Agored, yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim, gan gynnwys:
- Saffari ar Lan y Môr ar draeth Cefn Sidan - 5 Gorffennaf, 10am–12pm
- Gweithgareddau Natur yn Llyn Llech Owain - 6 Gorffennaf, 10:30am–2pm
- Saffari ar Lan y Môr ar draeth Cefn Sidan - 9 Gorffennaf, 10am–12pm
- Taith Natur ym Morfa Berwig - 10 Gorffennaf, 10am - 11:30am
Does dim angen archebu ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiadau hyn. I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at PAubrey@sirgar.gov.uk
Mae'r gwaith hwn yn rhan o fenter ymwybyddiaeth Gweithredu ar Newid Hinsawdd Sir Gâr i annog pawb i helpu i leihau newid yn yr hinsawdd a gwarchod a gwella amgylchedd naturiol Sir Gâr.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i sirgar.llyw.cymru/newidhinsawdd sirgar/
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Mae Wythnos Natur Cymru yn gyfle gwych i ddathlu'r bioamrywiaeth anhygoel sydd gennyn ni ar stepen ein drws. Rydyn ni'n annog pawb i gymryd rhan, dysgu rhywbeth newydd, a chymryd camau syml i gefnogi ein hamgylchedd - boed hynny'n golygu plannu blodau gwyllt, adeiladu gwesty i drychfilod, neu dreulio mwy o amser yn yr awyr agored.”