Sir Gâr yn dathlu twf a buddsoddiad mewn twristiaeth yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru
4 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Gâr yn nodi Wythnos Twristiaeth Cymru 2025 (12–18 Mai) drwy ddathlu buddsoddiadau mawr, atyniadau newydd, ac effaith gynyddol twristiaeth ar economi a chymunedau'r sir.
Mae twristiaeth yn parhau i fod yn rhan hanfodol o economi Sir Gâr, gyda 3.31 miliwn o ymwelwyr yn cael eu croesawu yn 2023 ac effaith economaidd leol o £683.26 miliwn. Mae'n sbardun allweddol i gyflogaeth leol, datblygu busnes, a balchder diwylliannol - gan gefnogi cymunedau ledled y sir.
Mae buddsoddiad diweddar wedi cryfhau cynnig ymwelwyr Sir Gâr ymhellach. Ymysg y datblygiadau diweddaraf mae agor cwrs gwallgolff 12 twll newydd sbon yn Caban Pentywyn, sy'n cynnig atyniad hwyliog a chyfeillgar i deuluoedd ar Draeth Pentywyn.
Carreg filltir bwysig arall yw lansio'r rhan gyntaf o Lwybr Dyffryn Tywi, llwybr golygfaol a gynlluniwyd ar gyfer cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae'r darn 4 milltir sydd newydd agor yn rhedeg rhwng Abergwili a Nantgaredig, disgwylir i'r llwybr llawn 16.7 milltir gael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni. Ar ôl i'r llwybr di-draffig gael ei orffen, bydd yn cysylltu Dyffryn Tywi â Ffairfach, gan ddarparu taith ddiogel a hygyrch drwy un o dirweddau mwyaf prydferth Sir Gâr.
Gyda chefnogaeth cronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Gâr hefyd wedi cyflawni cyfres o welliannau seilwaith i wella profiad cyffredinol yr ymwelwyr. Mae'r rhain yn cynnwys gwell mynediad at safleoedd treftadaeth allweddol fel Amgueddfa Caerfyrddin a Llansteffan. Yn ogystal, mae cyllid sylweddol wedi'i sicrhau ar gyfer prosiectau ym Mharc Gwledig Pen-bre a Chanolfan Gwlyptir Llanelli. Mae'r gwaith uwchraddio hwn wedi gwella cyfleusterau ar y safle ac wedi cryfhau cynaliadwyedd hirdymor.
I ddathlu Wythnos Twristiaeth Cymru, mae Cyngor Sir Gâr wedi lansio modiwl ffilmio lefel aur o fewn ei Gynllun Llysgenhadon Twristiaeth ar-lein am ddim. Mae'r modiwl hwn yn tynnu sylw at apêl gynyddol y sir fel cyrchfan ffilm a theledu. Mae hefyd yn cyflwyno'r canllaw Set-Jetters, gan helpu busnesau a phreswylwyr lleol i hyrwyddo lleoliadau ffilmio eiconig. Mae'r modiwl yn cefnogi ymgyrch Starring Great Britain gan VisitBritain, gyda'r nod o hybu twristiaeth sgrin ledled y DU.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae twristiaeth yn Sir Gâr yn cefnogi swyddi, yn sbarduno buddsoddiad, ac yn helpu i warchod y lleoedd unigryw sy'n gwneud ein sir yn arbennig. O atyniadau newydd i ymwelwyr i brosiectau dan arweiniad y gymuned, rydym yn falch o arddangos y gorau o'r hyn rydyn ni'n ei gynnig drwy gydol y flwyddyn.”
I ddysgu rhagor neu i gofrestru am y Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth, ewch i:
https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/twristiaeth/llysgennad-twristiaeth-sir-gaerfyrddin/