Swyddogion Gorfodi yn rhan o ddiwrnod gwaith aml-asiantaeth yn Llanelli

7 diwrnod yn ôl

Ddydd Mercher 2 Ebrill, cymerodd Swyddogion Gorfodi Materion Amgylcheddol Cyngor Sir Caerfyrddin (CCC) ran mewn gwaith aml-asiantaeth yn y Bynea, Llanelli, gan dargedu rhai oedd yn cludo gwastraff yn anghyfreithlon ac yn mynd yn groes i ddeddfwriaeth.

Roedd yr ymgyrch, dan arweiniad Heddlu Dyfed-Powys, yn canolbwyntio ar unigolion oedd yn cludo gwastraff yn anghyfreithlon ac yn dod â sawl asiantaeth at ei gilydd, yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), gan weithio mewn dau leoliad allweddol yn ardal y Bynea.

I geisio atal gwastraff anghyfreithlon, bu Swyddogion Gorfodi Materion Amgylcheddol y Cyngor yn canolbwyntio ar ddod o hyd i unigolion oedd yn cludo gwastraff heb y Trwyddedau Cludwr Gwastraff angenrheidiol na'r dogfennau cywir. Mae cludwyr gwastraff heb drwydded yn aml yn cyfrannu at broblemau fel tipio anghyfreithlon, llygru'r amgylchedd, a hagru harddwch ein sir.

Mae'r ymdrech hon ar y cyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio er mwyn tarfu ar droseddau a gwarchod ein cymunedau a'n hamgylchedd rhag niwed.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

"Mae'r ymgyrch yma'n dangos ein bod o ddifri am leihau troseddau amgylcheddol. Drwy weithio gydag asiantaethau gorfodi eraill, rydyn ni'n anfon neges glir na fyddwn ni'n goddef cludo gwastraff yn anghyfreithlon. Mae hyn yn hanfodol bwysig i warchod ein hamgylchedd a sicrhau bod busnesau cyfreithlon ddim ar eu colled o achos pobl sy'n torri'r gyfraith."